South Wales Police

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Mr Gareth Madge

Mr Gareth Madge

Cafodd Gareth ei eni a’i addysgu yng Nghwm Tawe ac aeth i Brifysgol Cymru, Caerdydd lle enillodd radd ag anrhydedd yn y Gyfraith.

Cychwynnodd ar ei yrfa gyfreithiol ym 1977 pan ymunodd â Chyfreithwyr T.R.Harris, Arnold & Co. yn Abertawe fel Cyfreithiwr dan Hyfforddiant.  Ddwy flynedd yn ddiweddarach daeth yn gyfreithiwr cymwysedig gan dreulio blwyddyn fel Cyfreithiwr Cynorthwyol yn y cwmni, cyn dod yn bartner ym 1980.

Ym 1986 ymunodd Gareth â Heddlu De Cymru fel Cyfreithiwr yr Heddlu gyda chyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr i’r Prif Gwnstabl ac Awdurdod yr Heddlu.

Roedd yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Cyfreithwyr yr Heddlu (sy’n cynrychioli cyfreithwyr sy’n cael eu cyflogi gan heddluoedd yn y DU) rhwng 1995 a 2009, gan wasanaethu am chwe blynedd fel Ysgrifennydd ac fel Cadeirydd rhwng 2003-2007.  Roedd ei waith gyda’r Gymdeithas yn gyfle i ddylanwadu ar faterion cenedlaethol, ac roedd yn ymwneud â sefydliadau fel Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, Comisiwn y Gyfraith a Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

Yn 2006, daeth Gareth yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol ac yn aelod o Grŵp Prif Swyddogion yr Heddlu, lle mae'n ymwneud â rheolaeth strategol yr heddlu.

Mae ei bortffolio yn cynnwys goruchwylio’r ddarpariaeth cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth yn ymwneud â nifer o feysydd busnes amrywiol, gan gynnwys:

  • Ymgyfreitha Sifil
  • Cyfraith Cyflogaeth
  • Cytundebau
  • Trawsgludo
  • Pwerau Plismona Gweithredol (megis Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Gorchmynion Troseddwyr Rhywiol)
  • Deddfwriaeth a Rheoliadau Heddlu

Mae Gareth hefyd yn arwain ar faterion cyfreithiol Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru, ac mae'n aelod o Fwrdd Cydweithredu Heddluoedd Cymru Gyfan.
 
Ers 1 Ebrill 2010 mae Gareth hefyd wedi bod yn gyfrifol am faterion cyfreithiol Heddlu Gwent.  Cafodd Adrannau Cyfreithiol y ddau Heddlu eu cyfuno o’r dyddiad hwnnw er mwyn ffurfio Gwasanaeth Cyfreithiol ar y cyd i ddarparu adnodd cyfreithiol ymatebol a chadarn i’r ddau Heddlu.

Cred Gareth fod creu’r Gwasanaeth Cyfreithiol ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent yn gyfle cyffrous i alluogi cyfreithwyr i gymryd rhan yn llawn wrth gefnogi’r ddau Heddlu i ddarparu’r gwasanaeth plismona gorau posib i’w cymunedau.

Mae Gareth yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn Hyrwyddwr Iaith Gymraeg ar lefel Prif Swyddogion Heddlu De Cymru.  Mae wedi ymrwymo i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith a’i statws.  Mae’n aml yn cynorthwyo’r Prif Swyddogion eraill gyda dysgu Cymraeg!

Mae Gareth hefyd yn ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru, sy’n elusen a sefydlwyd gan yr Heddlu i helpu pobl ifanc yn yr ardal, ac mae'n ymrwymo i’r gwaith hwn yn llawn.

Yn ogystal â dilyn Rygbi Cymru mae Gareth yn hoff o ffotograffiaeth, hanes milwrol a garddio.

Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice