Er ei bod ond yn gorchuddio tua 10% o ardal ddaearyddol Cymru, mae ardal Heddlu De Cymru yn gartref i tua 1,225,900 o bobl, tua 42% o boblogaeth gyfan y wlad.
Mae’r ddwy ddinas lewyrchus Gymreig, Caerdydd ac Abertawe, wedi’u lleoli yn ardal yr Heddlu, yn ogystal â chymoedd De Cymru sy’n gyfoeth o ddiwylliant, rhanbarthau arfordirol eang, atyniadau mawr i dwristiaid fel Penrhyn Gwyr, Porthcawl a’r Barri, cysylltiadau teithio prysur fel traffordd yr M4, llinellau rheilffordd rhwng dinasoedd, Maes Awyr Caerdydd a meysydd chwaraeon enwog fel Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd a Stadiwm Liberty yn Abertawe.
Er bod ganddi enw am ei hymdeimlad cryf o hanes, mae De Cymru yn parhau i ehangu ym meysydd busnes, hamdden a thwristiaeth gan wneud y rhanbarth yn faes diddorol a heriol i’r heddlu.
Rydym yn hynod o falch i allu diogelu a gwasanaethu ein cymunedau, a’n gweledigaeth yw bod y gorau o ran deall ac ymateb i anghenion ein cymunedau.
Mae’r heddlu yn cynnwys 232 cymdogaeth, sydd wedi’u rhannu yn bedwar maes plismona rhanbarthol.
Dyma’r meysydd:
• Rhanbarth Gogleddol (Merthyr a Rhondda Cynon Taf)
• Rhanbarth Dwyreiniol (Caerdydd)
• Rhanbarth Gorllewinol (Castell-nedd, Port Talbot ac Abertawe)
• Rhanbarth Canolog (Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr)
Mae gan bob cymdogaeth dîm plismona cymdogaeth pwrpasol sydd yn cynnwys swyddogion heddlu, swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a chwnstabliaid gwirfoddol, sy’n gweithio gyda’r gymuned i ddelio â’r materion sydd o’r pwysigrwydd mwyaf i chi.