South Wales Police

Prif Gwnstabl Cynorthwyol Plismona Tiriogaethol

Prif Gwnstabl Cynorthwyol Plismona Tiriogaethol

Julian Kirby

Mr Julian Kirby

Dechreuodd Julian ar ei yrfa yng Ngwasanaeth Sifil y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan weithio mewn amrywiaeth o rolau o fewn disgyblaethau gwyddonol a gweinyddol mewn amrywiaeth o sefydliadau milwrol yn ne Lloegr.  Ym 1986 ymunodd Julian â Heddlu Wiltshire, ac felly y dechreuodd ei yrfa lwyddiannus fel swyddog heddlu.

Ers ymuno â’r heddlu ym 1986 mae Julian wedi dyrchafu drwy’r rhengoedd yn gyflym.  Cafodd hefyd amser i gwblhau gradd mewn Astudiaethau Plismona a’r Heddlu ym Mhrifysgol Portsmouth.  Erbyn y flwyddyn 2000 dyrchafwyd Julian yn Uwcharolygydd.  Yn ystod ei amser fel Uwcharolygydd bu Julian yn Ddirprwy Reolwr Rhanbarthol Rhanbarth Gogledd-orllewin Wiltshire a Swindon, ac roedd ganddo gyfrifoldeb Uwch Reolwr Llinell dros Unedau Gweithredol Iwnifform ac Ymholiadau i Droseddau.

Yn 2002 daeth Julian yn Bennaeth Gweithrediadau’r Pencadlys, gyda chyfrifoldeb strategol dros ddarparu gwasanaethau plismona arbenigol gweithredol.  Roedd hyn yn cynnwys arfau tân, a daeth Julian yn Bennaeth Proffesiwn ar gyfer Gweithrediadau Arfau Tân yn y Sir ac o ran darparu cymorth i Heddluoedd eraill yn genedlaethol. Yn dilyn ei lwyddiant yn y rôl hon cafodd ei benodi yn Rheolwr Rhanbarthol yn 2006.  Fel Rheolwr Rhanbarthol roedd gan Julian gyfrifoldeb strategol dros ddarparu gwasanaethau plismona yn Wiltshire.

Mae uchafbwyntiau ei yrfa yn cynnwys cynllunio a rhoi’r timau cyfweld pobl dan amheuaeth staff yr heddlu cyntaf yn y DU ar waith, a datblygu a gweithredu cyfuno dwy Uned Rheoli Sylfaenol.  Mae’r URS bellach yn un o’r Rhanbarthau plismona mwyaf yn y wlad.

Ymunodd Julian â Heddlu De Cymru yn 2010 fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol Plismona Tiriogaethol.

Mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol Plismona Tiriogaethol Julian Kirby yn gyfrifol am:

  • Unedau Rheoli Sylfaenol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Caerdydd a Bro Morgannwg
  • Cymunedau a Phartneriaethau
  • Cyfiawnder Troseddol
  • Plismona Tiriogaethol

 

Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice