South Wales Police

Prif Gwnstabl

Prif Gwnstabl

Prif Gwnstabl Peter Vaughan
Prif Gwnstabl Peter Vaughan

Prif Gwnstabl Peter Vaughan
Peter Vaughan BSc (Anrh), Dip.App.Crim.
Prif Gwnstabl

Ymunodd Peter Vaughan â Heddlu De Cymru ym 1984, wedi iddo ennill BSc Dosbarth Cyntaf (Gwyddoniaeth Rheolaeth ac Ymchwil Gweithrediadau) o Brifysgol Cymru, Abertawe.  Mae ganddo hefyd Ddiploma mewn Troseddeg Gymhwysol a Rheolaeth Heddlu o Brifysgol Caergrawnt.

Mae Peter yn falch ei fod wedi treulio amser ym mhob un o rengoedd Heddlu De Cymru yn gwasanaethu’r cymunedau lle cafodd ei fagu, ac y mae’n byw yno o hyd.  Yn ystod rhan gyntaf ei yrfa gweithiodd mewn nifer o swyddi gweithredol cyn dod yn arweinydd Diogelwch Cymunedol fel Uwcharolygydd.  Yna dyrchafwyd yn Bennaeth yr Uned Troseddau a Pholisïau Gweithredol.  Rheolodd ddwy Uned Rheoli Sylfaenol yn ne Cymru am gyfnod o tua dwy flynedd yr un, ym Merthyr Tudful i ddechrau ac yna fel Prif Uwch-arolygydd yn Rhondda Cynon Taf.

Yn 2003 aeth ar y Cwrs Rheolaeth Strategol ac ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn daeth yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol Cwnstabliaeth Wiltshire.  Yn ystod y cyfnod hwn fel unig Brif Gwnstabl Cynorthwyol yr Heddlu cafodd gyfrifoldeb dros pob mater gweithredol, gan arwain yr ymateb i nifer o ddigwyddiadau difrifol a phroffil uchel.

Ym mis Ionawr 2007 dychwelodd i Heddlu De Cymru fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol gan dderbyn cyfrifoldeb dros bortffolio Cymunedau a Phartneriaethau.  Ym mis Ebrill 2007 cafodd ei ddyrchafu yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, ac ar 1 Ionawr 2010 daeth Peter yn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru.

Mae’n Ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru, yn aelod o Gyngor Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru ac yn aelod o Fwrdd Cynghori Busnes yn y Gymuned (BITC)

Mae’n Gadeirydd Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru ac yn Gadeirydd Portffolio Troseddau Meddiangar Cymdeithas y Prif Swyddogion Heddlu, sy’n rhoi cyngor a chanllawiau i’r gwasanaeth a’i bartneriaid ar bob agwedd ar droseddau meddiangar, megis byrgleriaethau a throseddau cerbyd.

Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice