South Wales Police

Dirprwy Brif Gwnstabl

Dirprwy Brif Gwnstabl

Deputy Chief Constable Colette Paul

Ms Colette Paul

 

Ymunodd Colette â’r Gwasanaeth Heddlu Metropolitan ym 1982 ar ôl graddio o Brifysgol Keele gyda gradd mewn Saesneg a Seicoleg.  Mae wedi gwasanaethu'r Heddlu er 26 blynedd, wedi cymryd seibiant gyrfa ym 1998.
 
Ni ystyriodd Colette ymuno â’r Heddlu tan ei blwyddyn olaf yn y Brifysgol, ond ers hynny mae hi wedi mwynhau gyrfa y mae’n ei disgrifio fel un ‘hynod wobrwyol’.

Cychwynnodd ar y rhawd yn Edmonton, gogledd Llundain, ond ni fu’n hir cyn i Colette symud ymlaen i’r CID.  Mae hi wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn dditectif gweithredol mewn amrywiaeth o rolau.  Mae hi wedi gweithio o fewn yr Uned Puteindra, y Sgwad Llofruddiaeth a’r Tasglu Troseddau Hiliol a Threisgar.

Ym 1998 cafodd Colette seibiant gyrfa er mwyn teithio dros y dŵr i weithio i'r Uchel Gomisiynydd Prydeinig yn Ottawa, Canada.  Dychwelodd i Lundain ddwy flynedd yn ddiweddarach ac fe'i penodwyd yn Dditectif Uwcharolygydd Cangen Gwrthderfysgaeth y Gwasanaeth Heddlu Metropolitan.

Yn y rôl hon sefydlodd Colette Uned Troseddau Rhyfel y Metropolitan a’r Gell Cudd-wybodaeth Gwrthderfysgaeth.  Roedd hefyd yn gweithredu fel yr Uwch Swyddog Ymchwilio mewn nifer o ymchwiliadau i derfysgaeth.
 
Wedi dyrchafiad i reng Prif Uwcharolygydd yn 2004, gwasanaethodd Colette yn Swyddog Staff i’r Arglwydd Stephens, Comisiynydd y Heddlu Metropolitan.  Wedi blwyddyn yn y swydd dychwelodd at blismona gweithredol, a daeth yn Gomander Bwrdeistref Ealing yng ngorllewin Llundain.

Yn ddiweddarach, cafodd Colette gyfrifoldeb dros holl strategaethau gweithredol y Metropolitan wedi iddi fynychu’r Cwrs Uwch Reolaeth yn Bramshill ym mis Tachwedd 2007.

Ar 19 Mai 2008 ymunodd Colette â Heddlu De Cymru fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gwasanaethau Amddiffynnol, gyda rheolaeth dros derfysgaeth ac eithafiaeth ddomestig, troseddau difrifol a chyfundrefnol, troseddau mawr, diogelu’r cyhoedd, drylliau a meysydd cymorth gweithredol eraill o fewn yr Heddlu.
Dyrchafodd Awdurdod Heddlu De Cymru Colette yn Ddirprwy Brif Gwnstabl yr Heddlu ym mis Rhagfyr 2009, ac dechreuodd ei swydd ar 1 Ionawr 2010.
 
Mae Colette yn gyfrifol dros nifer o feysydd plismona Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
 
Mae Colette yn hynod falch o wasanaethu mewn rôl mor uchel o fewn Heddlu De Cymru, ac mae’n mwynhau gweithio gyda’i chydweithwyr a'r staff i ddarparu gwasanaethau plismona ardderchog i bobl de Cymru.  Mae’n frwdfrydig dros wasanaethau cyhoeddus, ac meddai na fyddai am wneud unrhyw swydd arall, oherwydd plismona yw’r swydd delfrydol iddi hi.

Mae Ms Paul yn Rheolwr Llinell i dri Prif Gwnstabl Cynorthwyol a thri Prif Swyddog Cynorthwyol, ac mae'n gyfrifol am bortffolio:
  • Cymorth Corfforaethol
  • Prosiect DIWYGIO
  • Cyfathrebu Corfforaethol/Marchnata
Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice