South Wales Police

Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Mr Mark Milton

Mr Mark Milton

Ymunodd Mark Milton â Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ym mis Ionawr 2011.

Cyn hynny roedd gan Mark swydd debyg fel Cyfarwyddwr Adnoddau yn Heddlu Wiltshire er pum mlynedd.

Mae’r rhan fwyaf o yrfa Mark wedi ymwneud ag Adnoddau Dynol; mae wedi rheoli prosiectau AD mewn lleoliadau ledled y DU ac Ewrop.  Mae ganddo gefndir proffesiynol mewn gwasanaethau ariannol, yn benodol gyda chwmnïau yswiriant a buddsoddi.  Mae ganddo lawer o brofiad hefyd o ran rheoli newid sefydliadol ar raddfa fawr.

Mae ei swydd gyda Heddluoedd De Cymru a Gwent yn rhoi cyfrifoldeb i Mark dros 8,000 aelod o staff.

Ynghylch ei benodiad, dywedodd Mark:

 “Rwy’n hynod falch i fod yn ymuno â Heddluoedd De Cymru a Gwent.

“Mae’n amser heriol i’r ddau Heddlu.  Fy rôl i fydd cefnogi’r cyhoedd drwy ganolbwyntio ar ein hadnodd mwyaf gwerthfawr oll - ein swyddogion heddlu, staff yr heddlu a gwirfoddolwyr yr heddlu.

“Rwyf wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol drwy ddefnyddio fy mhrofiad o ran rheoli prosesau newid.

“Mae cefnogi, rheoli a datblygu ein gweithwyr yn hanfodol i lwyddiant ein cynlluniau, ac er mwyn cynnal gwasanaeth o safon a diogelu cymunedau De Cymru.”


Mae Mr Milton yn gyfrifol am:

  • Adnoddau Dynol
  • Datblygu Dysgu
  • Uned Amrywiaeth
Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice