Cynllun Plismona 2011-15 yw strategaeth pum mlynedd Awdurdod Heddlu De Cymru a Heddlu De Cymru i gadw de Cymru'n Ddiogel.
Fel y gwelwch, mae Cynllun Plismona 2011-15 wedi’i strwythuro o amgylch y meysydd canlynol yr ydym yn eu hystyried yn flaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf:
Fel Awdurdod ac fel Heddlu rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol mewn nifer o feysydd dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ystod 2010-11 roedd tua 790 yn llai o bobl yn dioddef troseddau bob mis. Rydym yn falch o’r canlyniadau hyn a byddwn yn parhau gyda’n gwaith i leihau troseddu, cynyddu datrys troseddau a chadw de Cymru'n ddiogel.
Mae barn ein cymunedau am wasanaeth yr Heddlu a’r ffordd rydym yn eich trin yr un mor bwysig i ni. Dengys ymchwil diweddar fod ein cymunedau yn teimlo’n fwy hyderus ynom a’r gwasanaeth a ddarparwn, ond gwyddwn fod gwaith i’w wneud yn y maes hwn, oherwydd i chi ddweud felly wrthym hefyd.
Nid ydym am danbrisio'r heriau sydd o’n blaenau, ond rydym am i chi wybod ein bod yn hyderus o’r gwir wahaniaeth y gallwn ei wneud i fywydau pobl ledled pob un o'n cymunedau, ac i'r llawer o bobl sy’n ymweld â’n hardal.