Cydraddoldeb, Amrywiaeth Ac Adnoddau Dynol
Fel gwasanaeth cyhoeddus sy’n gweithio i ddiwallu eich anghenion mae’n bwysig bod ein sefydliad yn adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethwn. Byddwn yn gweithio i hyrwyddo’n hunain yn well ym mhob cymuned fel sefydliad lle gellir ennill profiad gwerthfawr, boed fel gwirfoddolwr neu fel gweithiwr cyflogedig.
Gwyddwn fod y bobl sydd wedi cysylltu â ni oherwydd eu bod wedi dioddef trosedd a oedd yn seiliedig ar ragfarn neu gasineb yn llai na bodlon gyda’r gwasanaeth a dderbyniwyd, o’u gymharu â phobl sy’n rhoi gwybod am fathau eraill o droseddau. Byddwn yn gweithio er mwyn deall y rheswm am hyn a gwella bodlonrwydd ein cymunedau sy’n profi troseddau o’r fath.
Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod plismona’n chwarae rôl wrth ddatblygu cymunedau cadarn a bywiog, lle nad yw troseddau ac ymddygiad sy'n annerbyniol i'r mwyafrif yn cael eu dioddef.