South Wales Police

Sicrhau Fod Pob Cyswllt Yn Cyfrif

Sicrhau Fod Pob Cyswllt Yn Cyfrif

Mae bodlonrwydd pobl sydd wedi dioddef troseddau, yn ogystal â hyder ein holl gymunedau yn y gwasanaeth a ddarparwn, yn parhau yn flaenoriaeth ar gyfer 2011-15.  Byddwn yn sicrhau fod pob cyswllt ag aelod o Heddlu De Cymru yn diwallu eich anghenion, yn rhoi hyder i chi yn y gwasanaeth a ddarparwn ac yn eich bodloni o ran eich cyswllt â ni.

Byddwn yn gweithio gyda chi i ddarganfod sut yr hoffech dderbyn gwybodaeth oddi wrthym.  Byddwn yn gwrando ar yr hyn y dywedwch wrthym, yn datblygu’r ffyrdd rydym yn cyfathrebu â chi ac yn rhoi'r newidiadau rydych chi eu heisiau ar waith.  Byddwn yn sicrhau fod yr wybodaeth y derbyniwch yn ddefnyddiol ac yn eglur.

Rydych wedi dweud wrthym fod Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth, felly mae gwella’r ffordd rydym yn plismona ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bwysig i ni.  Byddwn yn trin adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol fel blaenoriaethau, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar yr hyn rydym ni'n ei wneud ynghylch eich pryderon.  Erbyn 2015 byddwn yn sicrhau fod pob cymuned (ar y lefel mwyaf lleol posib) yn elwa o ddull gweithredu cydgysylltiedig o ran mynd i’r afael â’ch pryderon cymunedol.

Byddwn yn ymgynghori â chi i ofyn eich barn ar yr hyn y credwch y gallem ei wneud yn well er mwyn diogelu’ch cymuned.

Cynllun Plismona Drafft 2010-2015 Maint: [5.06 MB] Math o Ffeil: [.pdf]
Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice