Heddlu De Cymru
&
Awdurdod Heddlu De Cymru
Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd y Sector Cyhoeddus
Cyflwyniad
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol. Mae hyn yn sylfaenol bwysig i Heddlu De Cymru ac Awdurdod Heddlu De Cymru, a dyna pam, wrth ddarparu ein gwasanaethau plismona, ein bod yn ymroddedig i wneud y cyfan y gallwn i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion a disgwyliadau ein cymunedau amrywiol lu.
Cenhadaeth yr Heddlu yw ‘Cadw De Cymru’n Ddiogel’, a’n gweledigaeth yw ‘bod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau’.
Mae Awdurdod Heddlu De Cymru yn rhannu’r weledigaeth ar y cyd hon, a nhw sy’n goruchwylio gwaith Heddlu De Cymru. Prif rôl Awdurdod yr Heddlu yw sicrhau bod yr Heddlu yn effeithiol ac effeithlon drwy ei ddal yn atebol ar ran y cyhoedd.
Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 (rheoliadau Dyletswyddau Penodol i’r DU) mae’n rhaid cyhoeddi gwybodaeth i ddangos ein bod yn cydymffurfio â’r dyletswyddau i:
a) ddileu gwahaniaethu ac aflonyddu;
b) cynyddu cyfleoedd cyfartal; a,
c) meithrin perthnasoedd da rhwng pobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol.
Y nodweddion gwarchodedig a ddiffinnir yn y Ddeddf yw:
• Oedran
• Anabledd
• Rhyw
• Ailbennu Rhywedd
• Priodas neu Bartneriaeth Sifil
• Beichiogrwydd neu Famolaeth
• Hil
• Crefydd neu Gred
• Tueddfryd Rhywiol
Yr Wybodaeth a Gyflwynir
Mae’r wybodaeth a gyflwynir ar y tudalennau canlynol yn cynnwys data a gasglwyd ers mis Ebrill 2009. Lle bo’n bosib cyflwynir y data mewn blynyddoedd ariannol llawn e.e. 1 Ebrill 2009 - 31 Mawrth 2010. Caiff data newydd ei ychwanegu yn 2012 i gynnwys blwyddyn lawn o ddata o fis Ebrill 2011 hyd ddiwedd mis Mawrth 2012.
Rydym yn cydnabod bod casglu a chyflwyno data yn waith ar y gweill. Mae rhai o’n meysydd gwaith nad oes data ar gael yn rhwydd ar eu cyfer, a lle’i fod ar gael, efallai nad yw’n bosib ei gasglu ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig. Felly, byddwn yn gweithio i bennu bylchau a dechrau mynd i’r afael â’r rhain dros amser.