Mae Adran Cyfathrebiadau Corfforaethol Heddlu De Cymru yn gyfrifol am gyfathrebiadau mewnol ac allanol yr Heddlu.
Amrywia hyn o ddatganiadau i’r wasg, trin y cyfryngau yn arbenigol, marchnata cyfathrebiadau, cynhyrchu pecynnau aml-gyfrwng, podlediadau a ffotograffiaeth, rheoli’r rhyngrwyd a’r fewnrwyd, hyfforddiant cyfryngau staff mewnol, y cylchgrawn mewnol, diwrnod agored yr Heddlu, y seremoni wobrwyo fewnol ac Amgueddfa’r Heddlu.
Mae’r Adran wedi’i rhannu’n chwe thîm, sef Tîm y Wasg, y Tîm Marchnata, y Tîm Cyfathrebiadau Mewnol, Tîm y We, y Tîm Cynnyrch Cyfryngol a’r Amgueddfa.
Yn ogystal â hyn, mae Swyddogion y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus rhanbarthol yng Nghaerdydd, Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg, a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae
Tîm Ymateb i’r Wasg a Swyddogion Cysylltiadau Cyhoeddus a Ranbarthol y Wasg hefyd yn gyfleuster trin y cyfryngau 24 awr y dydd bob dydd o’r flwyddyn ar gyfer digwyddiadau argyfyngus y tu allan i oriau gwaith a digwyddiadau mawr.
Os ydych chi’n aelod o’r cyfryngau ac am gysylltu â’r Tîm Ymateb i’r Wasg, ffoniwch (01656) 869 291 neu e-bostiwch
press.office@south-wales.pnn.police.uk.
Os oes gennych ymholiad cyfryngol brys y tu allan i oriau gwaith ynghylch digwyddiad critigol neu drosedd fawr, ffoniwch Arolygydd yr Ystafell Reoli ar (01656) 655 555.
Os oes gennych ymholiad a hoffech siarad ag aelod o’r Adran Cyfathrebiadau Corfforaethol, ffoniwch (01656) 303 449 neu e-bostiwch
Corporate.Communications@south-wales.pnn.police.uk.