Mae safonau uchel yn helpu i gadw Heddlu De Cymru ar ben blaen plismona yn y DU.
Mae’r Adran Safonau Proffesiynol wedi’i lleoli ym Mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae ganddi bedair swyddfa ategol hefyd sy’n delio â chwynion sy’n tarddu o ranbarthau gwahanol ledled yr Heddlu.
Pennaeth Safonau Proffesiynol: Prif Uwcharolygydd Tim Jones
Mae’r Uwch Dîm Rheoli yn cynnwys:
Uwcharolygydd Martyn Jones
Prif Arolygydd Cheryl Jones
Prif Arolygydd Gary Osborne
Mr Colin Jenkins (Pennaeth Uned Fetio’r Heddlu)
Mr Dale Ponting (Uwch Reolwr Safonau Proffesiynol)
Mae’r adran yn gyfrifol am gofnodi ac archwilio i gwynion gan aelodau’r cyhoedd, honiadau a wneir yn fewnol gan aelodau’r Heddlu, a hefyd i unrhyw achosion o lygredigaeth.
Mae Heddlu De Cymru yn llwyr ymrwymedig i ganfod unrhyw lygredigaeth ac yn ymdrechu i gadw hyder y cyhoedd drwy weithredu polisi goddef dim o ran llygredigaeth.
Mae’n rhaid i bob aelod o’r Heddlu fodloni safonau ymddygiad cenedlaethol.
Gall unrhyw achos o dorri’r safonau hyn arwain at gamau disgyblu.
Mae nifer o ffyrdd y gall aelodau’r cyhoedd gwyno.
Ewch i “Sut i gwyno” am ragor o wybodaeth am yr opsiynau hyn.
Sut i gwyno