South Wales Police

Yr Adran Troseddau Arbenigol

Yr Adran Troseddau Arbenigol

Mae Adran Troseddau Arbenigol Heddlu De Cymru yn darparu adnoddau a chyfarpar arbenigol i staff rheng flaen er mwyn cyflawni gweledigaeth o fod y gorau am ddeall anghenion y gymuned ac ymateb iddynt.

Mae’r Adran yn cynnwys chwe phortffolio, sef Uned Cymorth Gwyddonol, Tîm Archwilio i Droseddau Mawr, Uned Rheoli Gweithrediadau Cudd, Cyfarwyddiaeth Gudd-wybodaeth, Adran Cysylltiadau Cyhoeddus ac Adran Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol.

Bydd yr Adran Troseddau Arbenigol yn defnyddio adnoddau i archwilio i droseddau megis llofruddiaeth, herwgipio, cyflenwi cyffuriau, a throseddau eraill lle bo bygythiad i fywyd neu unrhyw effaith ar ddiogelwch cymunedau de Cymru.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth i’n cynorthwyo ni i gadw de Cymru’n ddiogel, ffoniwch Heddlu De Cymru ar 01656 655555 neu Taclo’r Taclau, yn ddienw, ar 0800 555 111.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cyfeiriwch unrhyw ohebiaeth at:

Pennaeth Troseddau Arbenigol

Pencadlys Heddlu De Cymru

Heol y Bont-faen

Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3SU


Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr

Uned Rheoli Gweithrediadau Cudd

Cyfarwyddiaeth Cudd-wybodaeth

Adran Diogelu'r Cyhoeddus

Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol

Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice