South Wales Police

London 2012

Cymryd Rhan
Am wybodaeth am ddigwyddiadau Llundain 2012 a gynhelir yma yng Nghymru a ledled y DU, ewch i http://goo.gl/jBtNh

Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd
Bydd Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd yng Nghymru o ddydd Gwener, 25 Mai tan ddydd Mercher, 30 Mai 2012.  I weld ble fydd y Fflam Olympaidd yn mynd, ewch i http://goo.gl/46pas

Mae animeiddiad o Daith Cyfnewid y Fflam Olympaidd yn http://goo.gl/y95Kt

Cynhelir Gŵyl y Fflam yng Nghaerdydd ar ddydd Llun, 27 Awst 2012.  Am wybodaeth am Daith Gyfnewid y Fflam Baralympaidd, ewch i http://goo.gl/6Ye4N

Amserlen y Campau
Bydd y Gemau Olympaidd yn dechrau ar 27 Gorffennaf ac yn rhedeg tan 12 Awst 2012.  Bydd y Gemau Paralympaidd yn dechrau ar 29 Awst ac yn dod i ben ar 7 Medi 2012.
Am ragor o wybodaeth am yr amserlen, ewch i http://goo.gl/4rQUq

Cyfri’r Diwrnodau Tan Lundain 2012
Am y newyddion diweddaraf am Chwaraeon Cymru a pharatoadau athletwyr lleol ar gyfer Llundain 2012, ewch i www.sportwales.org.uk

Gallwch hefyd gael y newyddion diweddaraf drwy Twitter, gyda nifer o fudiadau cyhoeddus yn defnyddio #2012cymruwales.

Diogelwch a Diogeledd
Yma yn Heddlu De Cymru mae gennym lawer o brofiad o gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, ac rydym yn gweithio’n agos gyda Phwyllgor Trefnu Llundain 2012, Awdurdod Cyflwyno’r Gemau Olympaidd a’n cydweithwyr o heddluoedd eraill ledled Cymru a gweddill y DU i sicrhau bod y Gemau a’r digwyddiadau yn ddiogel.

Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice