South Wales Police

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

PROBLEMAU GO IAWN, DATRYSIADAU GO IAWN

Ymddygiad gwrth gymdeithasol

Beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith andwyol ar ansawdd bywyd unigolion a chymunedau lleol. Gallwch ei brofi ar amryw ffurfiau – mae’n golygu fwy neu lai unrhyw ymddygiad sy’n achosi, neu sy’n debygol o achosi dychryn, aflonyddwch neu drallod. Gall wneud i ddioddefwyr deimlo dan fygythiad, yn ddig ac yn ofnus. Mae Heddlu De Cymru, ynghyd â’i bartneriaid, yn benderfynol o fynd i’r afael â’r lleiafrif bychan o bobl sy’n gweithredu yn y ffordd yma. Mae rhai enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys:

•Grwpiau o bobl yn loetran o gwmpas strydoedd, gan achosi niwsans
•Pobl dan oed yn yfed yn y stryd
•Ymddygiad bygythiol neu feddwol
•Defnyddio ceir neu feiciau modur mewn modd amhriodol, megis refio injan yn barhaus, stereos uchel neu bibelli ecsôst swnllyd
•Fandaliaeth a graffiti
•Delio mewn cyffuriau neu gymryd cyffuriau
•Tipio anghyfreithlon
•Sŵn o dai neu o erddi yn ystod y nos, yn enwedig rhwng 11pm a 7am;
•Cerbydau wedi’u gadael
•Cardota
•Puteindra
•Brawychu

Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice