Mae e-Droseddu yn derm ymbarél ar gyfer amrywiaeth o dramgwyddau troseddol a all ddigwydd pan fydd cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio fel cyfrwng neu ffynhonnell trosedd.
Mae rhai pobl yn lledu meddalwedd faleisus gyda’r bwriad o achosi niwsans i eraill drwy osod firysau ar eu cyfrifiadur.
Fodd bynnag, bydd eraill am gael mynediad at eich cyfrifiadur er budd iddynt hwy. Er enghraifft, bydd troseddwyr yn esgus bod yn wefan gyfreithiol ac yna’n defnyddio’r dechneg ‘gwe-rwydo’ i ddwyn manylion eich cerdyn credyd, neu i gael gafael ar arian ar gyfer nwyddau na fyddwch byth yn eu derbyn.
Mae lladrad, twyll, ffugiad a blacmel oll yn enghreifftiau o droseddau a all ddigwydd ar y we, ac oherwydd eu natur gall hacwyr ymosod arnoch filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Mae cymryd rhai camau syml yn gwneud llawer o wahaniaeth o ran diogelu eich cyfrifiadur:
- Gwnewch yn siŵr bod eich mur gwarchod ymlaen - mae modd gwirio hyn drwy agor eich panel rheoli. Mae’n troi ei hun ymlaen yn awtomatig gyda Windows Vista a fersiynau hwyrach o Windows XP ond nid gyda Mac OS X.
- Buddsoddwch mewn meddalwedd gwrth firysau a gwrth ysbïo o safon
- Blociwch eich holl e-byst sbam i atal firysau rhag treiddio i’ch system
- Byddwch yn wyliadwrus o negeseuon sy’n eich annog i edrych ar luniau doniol, fideos neu gemau - fe allent fod yn cael eu defnyddio i guddio meddalwedd faleisus
- Peidiwch â defnyddio’r un cyfrineiriau ar gyfer eich holl gyfrifon ar y we - os bydd haciwr yn cael gafael ar un bydd yn ei gynorthwyo i ddarganfod beth yw’r gweddill
- Peidiwch â storio cyfrineiriau yn eich gyriant caled – ysgrifennwch nhw i lawr a’u cadw mewn man diogel yn hytrach
Mae gan Heddlu De Cymru swyddog e-Droseddu penodedig sy’n gweithio i sicrhau fod pob digwyddiad e-Droseddu yn cael ei archwilio’n drylwyr.
Mae’n dditectif gyda dros 25 mlynedd o brofiad archwilio troseddol, ac mae John Cherry wedi ymrwymo i roi gwybodaeth a theclynnau i fusnesau lleol ar sut i fod yn ymwybodol, yn wyliadwrus, yn hysbys ac yn y pen draw yn ddiogel rhag effeithiau dinistriol e-droseddu.
Am ragor o wybodaeth ar e-Droseddu, ewch i: www.ecrimewales.com
Os ydych yn amau eich bod chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod wedi bod yn ddioddefwr e-Droseddu, ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.