South Wales Police

Gwylwyr Arfordir Cymru

Gwylwyr arfordir Cymru

Coastwatch Wales

Beth yw Gwylwyr Arfordir Cymru?

Mae Gwylwyr Arfordir Cymru yn fenter sydd wedi’i chynllunio i gynyddu diogelwch ar hyd arfordir Cymru a chanfod llongau ac unigolion sydd ynghlwm â gweithgareddau amheus arforol ac arfordirol.

Fe allai gweithgareddau o’r fath fod ynghlwm â smyglo, troseddu cyfundrefnol a therfysgaeth.

Mae Gwylwyr Arfordir Cymru yn gyfuniad o swyddogion ac asiantaethau arbenigol sy’n cynnwys Tollau, Mewnfudo, Heddlu, Gwylwyr y Glannau a’r Llynges Frenhinol. Gall Gwylwyr Arfordir Cymru gael mynediad at wybodaeth yn rhwydd ac ymateb yn unol â hynny.

Bwriad Gwylwyr Arfordir Cymru yw darparu amgylchedd y bydd y bobl sydd ynghlwm â gweithgaredd troseddol ar hyd arfordir Cymru yn ei gweld hi’n anodd gweithredu ynddi. Trwy gyfathrebu a reportio effeithiol bydd y bobl hyn yn cael eu canfod a’u herlyn.

Y bwriad yw aflonyddu ar y bobl sydd ynghlwm â gweithgaredd troseddol drwy gyfathrebu’n effeithiol â’r gymuned arforol ac arfordirol a pharhau i wneud arfordir a dyfrffyrdd Cymru yn amgylchedd diogel i chi gael eu mwynhau.

 

Something fishy going on?
Crimestoppers
Share
Crimestoppers

Call anonymously with information about crime
or use secure online form

Heddlu De Cymru yw’r 8fed heddlu sydd wedi gwella orau yn genedlaethol mewn lleihau troseddau yn gyffredinol, gyda 14,000 yn llai o ddioddefwyr trosedd
Hafan