South Wales Police

Cyllyll a’r Gyfraith

Cyllyll a’r Gyfraith

Nid yw troseddau cyllyll yn ymwneud â defnyddio cyllell mewn modd bygythiol yn unig - mae’n cynnwys prynu, gwerthu neu gario cyllell.

Er nad yw troseddau cyllyll yn rhan o fywyd o ddydd i ddydd yn Ne Cymru, mae Heddlu De Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cymryd camau gweithredu cadarnhaol i atal problem rhag digwydd.

Gall gwybod beth yw’r gyfraith ynghylch cyllyll wneud gwir wahaniaeth o ran atal troseddau rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Mae’n drosedd:

  • Cario, prynu neu werthu cyllell anghyfreithlon (enghreifftiau isod)
  • Cario cyllell yn gyhoeddus heb reswm dilys
  • Cario cyllell o unrhyw fath os ydych o dan 18 mlwydd oed
  • Gwerthu cyllell i berson sydd o dan 18 mlwydd oed
  • Bygwth neu anafu rhywun gyda chyllell

 

Nid yw cyllyll sy’n plygu i mewn i’r ddolen, fel cyllell ‘Swiss Army’ yn anghyfreithlon os yw’r llafn yn fyrrach na thair modfedd (7.62cm), ond caiff ei ystyried yn arf bygythiol os caiff ei defnyddio mewn modd bygythiol. 

Bydd yr heddlu hefyd yn ystyried unrhyw offeryn miniog sy’n cael ei ddefnyddio mewn modd bygythiol, er enghraifft, tyrnsgriw, fel arf bygythiol.

Y gosb fwyaf ar gyfer cario arf bygythiol yw pedair blynedd yn y carchar a dirwy o £5,000.

Dyma restr o gyllyll anghyfreithlon, ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr:

  • Cyllyll Gravity
  • Cyllyll Sbring
  • Cyllyll Bwcl Gwregys
  • Cyllyll Butterfly
  • Cyllyll wedi’u cuddio (er enghraifft, cyllell minlliw)
  • Cyllyll Stealth
  • Dagerau gwthio 
  • Crafangau llaw
  • Crafangau troed
  • Kyoketsu shoge (cyllell fachog yn gysylltiedig i raff, cordyn neu weiren)
  • Kubotan (siâp silindraidd yn dal pigau)
  • Kusari (pwysau yn gysylltiedig i raff, cordyn neu weiren)
  • Kusari-gama (cryman yn gysylltiedig i raff, cordyn neu weiren)
  • Shuriken (gelwir hefyd yn 'death stars' neu 'throwing stars')


Mae gan swyddogion Heddlu De Cymru'r hawl i stopio a chwilio unrhyw berson neu unrhyw gerbyd os ydynt yn amau troseddu, gan gynnwys meddiant o arf bygythiol.

Os oes gennych chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, amheuon fod rhywun yn cario cyllell, reportiwch y peth drwy ffonio 101 neu drwy ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.

 

It doesn
Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice