Mae Heddlu De Cymru wedi ymuno â Heddluoedd eraill Cymru a’i bartneriaid eto eleni i ofyn i bobl ‘be a nice guy’ ar nosweithiau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt.
Mae’r ymgyrch ‘be a nice guy’ yn fenter diogelwch cymunedol Cymru gyfan a ddechreuodd yn ne Cymru saith mlynedd yn ôl. Ei nod yw lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod cyfnod y dathlu.
Mae’r Heddlu a’i bartneriaid yn gofyn am gydweithrediad y cyhoedd unwaith eto eleni i helpu i wneud yn siŵr fod pawb yn mwynhau Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt 2011.
Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau a newyddion diweddaraf Ymgyrch Bang ar dudalen yr ymgyrch ar Facebook yn www.facebook.com/beaniceguy