Terfysgaeth - Helpwch ni i'w drechu
Datganiad gan Heddlu De Cymru
"Nid oes bygythiad penodol i Dde Cymru. Mae ein gweithgareddau plismona yn ymateb i’r perygl sydd i’w weld ar hyn o bryd ar draws Ewrop gyfan, ac nid yw'n fwy na llai yng Nghymru nag yn unrhyw le arall. Ni ddylai pobl gael braw, ond byddwch yn effro, a daliwch i fod ar eich gwyliadwriaeth"
"Mae’n bwysig nad yw Cymru yn cael ei gweld yn ddewis hawdd gan unrhyw derfysgwyr posibl. Rydym am i bobl De Cymru deimlo yn ddiogel a sicr wrth iddynt barhau gyda'u gweithgareddau bob dydd, yn ogystal â dangos drwy ein hymateb bod y gallu gennym i ymateb i ddigwyddiad terfysgol.
"Rydym yn cydweithio'n barhaus gyda Heddlu’r Metropolitan, Yr Adran Arbennig a’n cydweithwyr yn Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Y Weinyddiaeth Amddiffyn, gwasanaethau brys eraill ac asiantaethau lleol i sicrhau bod gennym ymateb effeithiol a chydlynol i unrhyw heriau y gallwn eu hwynebu. Mae diogelwch y cyhoedd yn parhau i fod o’r pwys mwyaf."
Camau ataliol syml
Mae terfysgaeth yn drosedd fel pob un arall, felly dilynwch yr un camau o ofal ag y byddech fel arfer yn eu cymryd i osgoi bod yn ddioddefwr trosedd.
Parhewch i fynd o gylch eich busnes bob dydd yn y ffordd arferol, ond parhewch yn effro a gwyliadwrus. Er enghraifft, edrychwch am fagiau, pecynnau a cherbydau amheus, neu bobl yn ymddwyn yn amheus mewn gorsafoedd a meysydd awyr, a rhowch wybod i’r heddlu neu’r awdurdodau priodol am unrhyw beth amheus.
Ymddiriedwch yn eich greddfau; os y teimlwch fod rhywbeth o’i le ffoniwch yr heddlu.
Os oes gennych wybodaeth am fygythiadau posib o fomiau neu fygythiadau uniongyrchol ffoniwch 999
Os oes gennych rybuddion answyddogol neu wybodaeth gyfrinachol am weithgaredd terfysgol posibl, ffoniwch linell frys gwrth-derfysgaeth yr heddlu: 0800 789 321
Rydym am i bobl De Cymru deimlo yn ddiogel a sicr wrth iddynt barhau gyda'u gweithgareddau bob dydd, yn ogystal â dangos drwy ein hymateb bod y gallu gennym i ymateb i ddigwyddiad terfysgol.
Meddyliwch am derfysgaeth
Mae llawer o derfysgwyr yn chwilio i ymddangos fel rhywun arall i ddiogelu eu hunain. Peidiwch â’u helpu drwy adael dogfennau adnabod pwysig megis pasportau a thrwyddedau gyrru yn agored i’w dwyn.
Mae angen arian ar derfysgwyr i ariannu eu gweithgaredd. Cânt ef drwy ddulliau cyfreithlon ac anghyfreithlon. Sicrhewch nad ydych yn ariannu terfysgwyr: gofalwch am eich cardiau credyd a chofnodion ariannol eraill, a pheidiwch â rhoi na chyfrannu i gasgliad os ydych yn ansicr i ble’r aiff yr arian.
Sicrhewch eich bod yn adnabod eich amgylchedd
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwneud teithiau cyfarwydd yn ddifeddwl.
Sylwch ar eich amgylchoedd ar eich taith i’r gwaith, i’r siopau a’r mannau arferol yr ymwelwch â hwy. Nodwch pwy a beth y disgwyliwch eu gweld bob dydd yn eich cymdogaeth a’ch gweithle.
Holwch eich hun:
Oes rhywbeth yn wahanol?
Oes rhywbeth yno nad yw yno fel arfer?
A yw eich cartref / gweithle fel y gadawsoch chi ef?
Camau synhwyrol i’w dilyn
Mae’n synhwyrol i fod yn barod ar gyfer unrhyw argyfwng yn y cartref ac i wneud trefniadau ar gyfer unrhyw darfiad, yn cynnwys tywydd garw a llifogydd.
Mewn unrhyw fath o argyfwng, gallech golli mynediad i bŵer, dŵr, ffonau a ffyrdd.
Felly:
Cadwch eitemau megis y canlynol wrth law:
batris
tortsh fatri
radio fatri neu un y gellir ei weindio
rhywfaint o fwyd parod i’w fwyta, e.e. bwyd tun
ychydig boteli o ddŵr
blancedi neu duvets
Cadwch rifau ffôn eich heddlu lleol, cyngor, cwmnïau gwasanaethau ac aelodau eich teulu yn gyfleus mewn un man.
Sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae’r prif switsys ar gyfer trydan, dŵr a nwy yn eich cartref, gan y gallai fod angen i chi eu troi ffwrdd mewn argyfwng.
Cafwyd y cynnwys o wefan y Swyddfa Gartref