South Wales Police

Troseddau Stepen Drws

Troseddau Stepen Drws

Er bod y rhan fwyaf o bobl sy’n galw ar stepen eich drws yn bobl onest, mae yna rai sy’n ymweld â chartrefi pobl gyda’r bwriad o dwyllo eu ffordd i mewn i’r tŷ i ddwyn eiddo a phethau gwerthfawr. Caiff hwn ei adnabod fel byrgleriaeth gwrthdynnu sylw.

Fe allai pobl eraill orfodi aelodau mwyaf agored i niwed y gymdeithas i gytuno i gael atgyweiriadau diangen wedi’u gwneud yn eu cartref, ac yna codi pris ofnadwy o uchel am y gwaith.

O 1 Hydref 2008 ymlaen, os ydych yn eich cartref a’ch bod yn talu rhywun sy’n galw ar eich stepen drws dros £35 ar gyfer nwyddau neu wasanaethau:

 

  •  Mae gennych yr hawl i ganslo'r cytundeb o fewn 7 diwrnod.
  • Mae’n rhaid i’r galwr roi ffurflen canslo ysgrifenedig i chi sy’n esbonio eich hawliau. Os nad yw’r sawl sy’n galw yn rhoi eich hawliau canslo i chi yna mae’n cyflawni trosedd ac nid yw’r cytundeb yn un dilys.


Mae mynd i’r afael â throseddau stepen drws yn flaenoriaeth uchel i Heddlu De Cymru. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Safonau Masnach, Age Concern ac eraill er mwyn trechu galwyr ffug, ond gyda’ch cymorth chi fe allwn wneud rhagor o wahaniaeth eto.

Mae nifer o ‘Ardaloedd Dim Galw Diwahoddiad’ yn Ne Cymru, lle na all pobl ymweld ag ardaloedd penodol er mwyn ceisio gwerthu nwyddau neu wasanaeth oni bai eu bod wedi gwneud apwyntiad o flaen llaw.

Er mwyn lansio ‘Ardal Dim Galw Diwhaoddiad’ yn eich ardal, cysylltwch â’ch Swyddfa Safonau Masnach agosaf 


Fe allwch hefyd ystyried ymuno â’ch cynllun Gwarchod Cymdogaeth lleol. Byddwch yn gweithio gyda’ch cymdogion i gadw golwg am unrhyw beth amheus a allai helpu gyda lleihau troseddau a diogelu pobl sy’n agored i niwed yn eich ardal.

Os ydych yn Amau, Cadwch nhw Allan

Pan fyddwch yn ateb y drws i ddieithryn, byddwch yn wyliadwrus. Dilynwch y camau syml isod i’ch diogelu eich hun a’ch eiddo:

  • Cadwch eich drws ar glo pan fyddwch adref
  • Peidiwch ag ateb drws y ffrynt oni bai fod eich drws cefn ar gau ac ar glo. Bydd lladron weithiau’n gweithio fel pâr, a bydd un yn tynnu eich sylw wrth ddrws y ffrynt tra bo’r llall yn torri mewn i’ch eiddo drwy’r drws cefn.
  • Defnyddiwch y bar drws neu’r gadwyn i siarad gyda’r person drwy’r drws, yn enwedig os nad oeddech yn disgwyl ymwelydd. Os nad oes gennych far drws neu gadwyn, dylech ystyried cael un - mae’n fuddsoddiad gwerth chweil. Maent yn ddefnyddiol wrth siarad ag ymwelwyr annisgwyl.
  • Gofynnwch am gael gweld cerdyn adnabod y person. Os ydynt yn ymweld am bwrpas cyfreithlon, byddant yn sicr o fod yn cario cerdyn adnabod oddi wrth y cwmni maent yn ei gynrychioli. Edrychwch ar y llun i weld a yw’n llun iawn ohonynt, ac os oeddech yn disgwyl ymwelydd, gwiriwch fod yr enw ar y cerdyn yr un peth â’r enw a roddwyd ar eich llythyr apwyntiad.
  • Os nad oeddech yn disgwyl y galwr a’ch bod dal yn amau eu cerdyn adnabod, peidiwch â’u gadael i mewn. Yn hytrach, ffoniwch y cwmni i wirio eu manylion. Edrychwch am y rhif ffôn yn y llyfr ffôn yn hytrach na ffonio'r rhif ar eu cerdyn, am y gallai fod yn rhif ffug.
  • Os oes angen i chi adael drws y ffrynt i wneud galwad ffôn neu i fynd i ôl eich sbectol i ddarllen y cerdyn adnabod, caewch y drws blaen a’i gloi. Peidiwch byth â’i adael ar agor heb fod neb yno.
  • Meddyliwch am gadw rhestr o rifau ffôn defnyddiol, fel eich cyflenwr nwy, trydan a dŵr mewn man defnyddiol. Mae gan lawer o gwmnïoedd rifau ffôn dynodedig am ddim er mwyn i chi allu gwirio eu gweithwyr.
  • Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïoedd nwy, dŵr a thrydan a rhai cynghorau system cyfrinair yn ei lle, lle bydd disgwyl i’w cynrychiolwyr ddweud cyfrinair o’ch dewis wrthych pan fyddant yn ymweld â chi. Os ydych yn disgwyl ymwelydd, siaradwch â’r cwmni i weld a oes modd i chi ddefnyddio’r dull hwn i wirio pwy yw’r galwr.
  • Peidiwch â gadael i’r ymwelydd roi pwysau arnoch chi neu eich drysu. Ni fyddai wahaniaeth gan rywun dilys aros tra byddwch yn gwneud y gwiriadau uchod.

 

Os nad ydych yn siŵr pwy yw’r galwr, peidiwch â’i adael i mewn i’ch cartref. Dywedwch wrthynt am ddod yn ôl yn hwyrach pan fydd cwmni gyda chi, neu ysgrifennwch atynt yn holi am apwyntiad ar amser mwy cyfleus.


Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’ch Cynghorydd Tactegol ar gyfer Lleihau Troseddu ar y rhifau canlynol:


Caerdydd: Bob Keohane - 029 2052 7432
 
Abertawe: Tony Pain - 01792 562768

Bro Morgannwg: Dick Collins – 01446 731627

Pen-y-bont ar Ogwr: Deborah Elward - 01656 679558

Castell-nedd / Port Talbot: Mary Williams - 01639 889178

Merthyr Tudful: Stephen Cooke - 01685 724267

Rhondda Cynon Taf: Anthony Pitt - 01685 724266

De Cymru: Rhiannon Williams – 029 20 527447

Llinell Gymorth Minicom i bobl fyddar: 01656 656980


Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice