Gallant Ladd
Gwybod beth
yw'r Peryglon
Gwybod Beth
yw'r Gyfraith
Gall camddefnyddio arfau aer a drylliau tanio ffug achosi difrod, anafiadau difrifol neu farwolaethau.
O'u gweld yn gyhoeddus gallant achosi pryder mawr i'r cyhoedd gan arwain at ymateb heddlu arfog.
Os ydych yn berchen ar arf aer neu'n ystyried cael un cofiwch y ddeddfwriaeth isod, er eich diogelwch eich hun a diogelwch y rheiny sydd yn eich cymuned.
Mae'n drosedd bod ym meddiant unrhyw arf aer neu arf ffug yn gyhoeddus heb awdurdod cyfreithiol neu esgus rhesymol
- GALLWCH GAEL EICH ARESTIO.
Gallai esgus rhesymol gynnwys rhywun ym meddiant arf aer neu arf ffug yn unol â'u dyletswyddau proffesiynol, megis ffermwr.
Ni chaiff pobl o dan 18 oed brynu, llogi, gwerthu na rhoi ar hur unrhyw arf neu ffrwydron.
Ni all rhai o dan 18 oed fod ym meddiant arf aer ar unrhyw adeg oni bai eu bod o dan oruchwyliaeth person sy'n 21 oed neu drosodd, neu fel rhan o glwb neu oriel saethu.
Gall personau fod ym meddiant arf aer ar dir preifat gyda chaniatâd y perchennog. Ond mae'n drosedd i unrhyw berson sy'n defnyddio arf aer ar dir preifat i saethu unrhyw daflegryn y tu hwnt i ffiniau'r eiddo. Y gosb uchaf ar gyfer y drosedd hon ar hyn o bryd yw £1,000. Ar gyfer tenantiaid tai, rhaid cael caniatâd gan y perchennog tir.