South Wales Police

Troseddwyr

Troseddwyr

Os ydych wedi’ch collfarnu am drosedd yn ddiweddar, efallai nad ydych yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf.

Mae adran hon y wefan yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar beth y gallwch ei ddisgwyl o’r broses ddedfrydu, yn ogystal â’r gwahanol fathau o ddedfrydau sy’n cael eu gorfodi gan y System Cyfiawnder Troseddol heddiw.

Wrth benderfynu ar ddedfryd addas, bydd y llys yn ystyried diogelwch y cyhoedd, yn ogystal â’r math o drosedd a gyflawnwyd, difrifoldeb y mater, ac amgylchiadau’r digwyddiad.

Cofiwch, nid dyma ddiwedd y daith. Mae cymorth ar gael i’ch cynorthwyo yn ôl i mewn i addysg, hyfforddiant neu waith.

Mae’r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Gofal ac Ailsefydlu Troseddwyr, NACRO, yn cynnig atebion ymarferol i gynorthwyo cyn-droseddwyr i adeiladu gwell dyfodol. Gallant eich helpu i chwilio am rywle i fyw, eich helpu i ddelio gyda phroblemau cyffuriau neu alcohol, a’ch cefnogi o ran mynd yn ôl i weithio.

I gymryd rhan, ffoniwch NACRO Cymru ar 01792 468400. Neu, ewch i’r wefan www.nacro.org.uk


Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice