South Wales Police

Dedfryd yn y Gymuned

Dedfryd yn y Gymuned

Mae dedfryd yn y gymuned yn ffordd i dalu cymdeithas yn ôl am y drosedd a gyflawnoch.

Mae’n seiliedig ar gosbi’r troseddwr, newid ei ymddygiad, a gwneud iawn am y drosedd.

Gall cosbau cymunedol hefyd fynd i’r afael â materion personol a arweiniodd at y drosedd, megis bod yn gaeth i gyffuriau.

Dyma’r pedwar prif fath o ddedfryd yn y gymuned:

  • Gorchymyn Cosb Gymunedol, lle bydd rhaid i chi gwblhau nifer penodol o oriau o waith heb dâl ar gyfer y gymuned. Os oes gennych swydd, bydd disgwyl i chi gwblhau’r gwaith cymunedol yn ystod eich amser eich hun.
  • Gorchymyn Ailsefydlu Cymunedol, lle byddwch o dan oruchwyliaeth swyddog prawf am hyd y gorchymyn.
  • Gorchymyn Canolfan Presenoldeb, lle bydd rhaid i chi gwblhau gweithgareddau penodol o dan oruchwyliaeth swyddog y ganolfan presenoldeb.
  • Gorchymyn Triniaeth a Phrofion Cyffuriau, y mae’n bosib y cewch eich gorfodi i gwblhau os oes gennych broblem â chyffuriau. Yn ystod y gorchymyn, bydd rhaid i chi dderbyn triniaeth.

Yn dilyn diwygio dedfrydau, gall llysoedd bellach greu gorchymyn cymunedol pwrpasol sydd yn fwyaf addas ar gyfer y troseddwr unigol a’r drosedd. Mae ystod o amodau y gellir eu gorfodi, ac mae’n bosib y cewch eich gorchymyn i wasanaethu mwy nag un.

Maent yn cynnwys:

  • Gwaith gorfodol (di-dâl)
  • Rhaglenni wedi’u hanelu at newid ymddygiad troseddol
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol
  • Gwahardd rhag gweithgareddau penodol
  • Gwahardd rhag mannau penodol
  • Cyrffyw
  • Gofyniad preswylio
  • Triniaeth a phrofion cyffuriau (gyda chaniatâd y troseddwr)
  • Triniaeth alcohol (gyda chaniatâd y troseddwr)
  • Triniaeth iechyd meddwl (gyda chaniatâd y troseddwr)
  • Goruchwyliaeth
  • Presenoldeb

 

Gallai methu â chydymffurfio ag amodau’r ddedfryd hon olygu y cewch eich anfon yn ôl i’r llys ar gyfer eich ail-ddedfrydu neu er mwyn cael dirwy am dorri’r ddedfryd.

Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice