Os cewch eich canfod yn euog o gyflawni trosedd, mae nifer o wahanol ddedfrydau ar gael i’r llys eu gorfodi arnoch.
Dyma nhw:
- Dedfryd o garchar (wedi cael eich dedfrydu cewch eich cymryd i’r carchar agosaf i gychwyn eich dedfryd. Os ydych wedi treulio amser yn y ddalfa cyn eich achos, yn aml, cyfrifir bod eich dedfryd yn dechrau ar y diwrnod cyntaf y cawsoch eich cadw yn y ddalfa).
- Dedfryd yn y gymuned
- Dirwy
- Gorchymyn iawndal (lle mae’r llys yn eich gorfodi i dalu iawndal i’r dioddefwr).
- Rhyddhad Amodol (mae hyn yn golygu na chewch eich cosbi y tro hwn, ond os byddwch yn troseddu eto o fewn terfyn amser penodol, mae’n bosib y cewch eich dedfrydu ar gyfer y drosedd flaenorol yn ogystal â’r drosedd newydd).
- Rhyddhad Diamod (er eich bod yn euog o’r drosedd, roedd y llys o’r farn nad oedd angen cosb. Fe allai hyn fod oherwydd natur ddibwys y drosedd, amgylchiadau’r drosedd, eich cymeriad da blaenorol, neu os ydych yn ifanc iawn, neu’n hen iawn).
Caiff troseddau llai difrifol eu clywed mewn llys ynadon, lle bydd ynad yn penderfynu ar eich dedfryd. Caiff troseddau mwy difrifol eu clywed yn Llys y Goron, lle bydd barnwr yn penderfynu.
Wrth benderfynu ar ddedfryd addas, bydd yr ynad neu’r barnwr yn ystyried y ffordd orau i gosbi’r troseddwr, ailsefydlu’r troseddwr, lleihau troseddu, diogelu’r cyhoedd a sicrhau fod y troseddwr yn gwneud iawn am y drosedd.
Bydd yr ynad neu’r barnwr hefyd yn ystyried y math o drosedd, difrifoldeb y drosedd, amgylchiadau’r digwyddiad, a’r gosb uchaf sydd ar gael yn ôl y gyfraith.
Bydd eich oedran, eich cefndir troseddol a sut y pledioch hefyd yn cael eu hystyried.