South Wales Police

Eich Hawliau

Eich Hawliau

Apeliadau

Os cewch eich collfarnu am gyflawni trosedd mewn llys, mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn eich collfarn, eich dedfryd, neu’r ddau.

Os byddwch yn cyflwyno apêl yn llys yr ynadon, bydd yr achos yn cael ei glywed eto o flaen barnwr a dau ynad.

Os ydych yn dewis apelio yn erbyn eich dedfryd yn unig, bydd barnwr Llys y Goron yn ystyried eich apêl ac yn penderfynu a oes sail ar gyfer newid y ddedfryd. Os na fydd sail, bydd y ddedfryd yn aros fel y mae.

Yn Llys y Goron, bydd eich apêl yn cael ei glywed gan y Llys Apêl. Byddant yn dewis os dylid gofyn am achos arall, cadw’r gollfarn fel y mae, neu ddileu’r gollfarn fel nad ydyw bellach yn ddilys.

Parôl
 
Parôl yw’r broses gyfreithiol sy’n rhyddhau carcharorion o’r ddalfa cyn eu bod wedi cwblhau eu dedfryd lawn.

Dyma’r ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i roi parôl:

  • Manylion y drosedd
  • Ymddygiad y troseddwr yn y carchar
  • Bwriad y troseddwr wedi cael ei ryddhau
  • Amgylchiadau cartref


Gall troseddwyr sy’n gwasanaethu dedfrydau carchar ar gyfer troseddau a gyflawnwyd ar 4 Ebrill 2005 neu wedi hynny ond wneud cais am barôl os ydynt yn gwasanaethu dedfryd diogelu’r cyhoedd neu ddedfryd am fywyd.

Mae’r cais am barôl yn cynnwys adroddiadau oddi wrth staff y carchar a staff prawf. Yn ystod y broses penderfynu, efallai y cewch eich cyfweld gan aelod o’r Bwrdd Parôl, a bydd cyfle i chi gyflwyno datganiadau ysgrifenedig i gynorthwyo’r cais.

Pan fydd y Bwrdd Parôl wedi cyrraedd penderfyniad, cewch eich hysbysu am y canlyniad drwy’r post. Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad parôl.
 
Collfarnau wedi’u Disbyddu
 
O dan Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974, mae trosedd ‘wedi’i disbyddu’ yn un nad oes rhaid i chi ei datgelu bellach, am fod cyfnod penodol o amser wedi pasio.

Fel arfer, mae’n rhaid i chi ddatgelu rhybuddion neu gollfarnau mewn ffurflen gais am swydd, mewn cyfweliad swydd, mewn cais am drwydded neu gais am yswiriant. Ond, os yw’r gollfarn wedi’i ‘disbyddu’ ni all effeithio ar eich cais mwyach, oni bai bod eithriad yn berthnasol.

Mewn meysydd arbennig o waith fodd bynnag, bydd bob amser rhaid i chi ddatgelu collfarnau a rhybuddion. Mae hyn yn cynnwys gwaith gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed, gwaith yn gysylltiedig â gorfodi’r gyfraith neu’r system gyfreithiol, a gwaith mewn uwch rolau ariannol.

Bydd hefyd rhaid i chi ddatgelu pob rhybudd a chollfarn os ydych yn gwneud cais ar gyfer rhai trwyddedau penodol ac yn ystod rhai achosion cyfreithiol.

Bydd y cyfnod ‘disbyddu’ ailsefydlu yn ddibynnol ar y drosedd a gyflawnwyd.

 

Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice