O fewn y system cyfiawnder troseddol, mae unrhyw berson sy’n 17 mlwydd oed neu’n iau yn cael ei alw’n ‘droseddwr ifanc’.
Mae achosion sy’n ymwneud â throseddwyr ifanc fel arfer yn cael eu clywed mewn llys ieuenctid, ond ar gyfer pobl ifanc sy’n troseddu am y tro cyntaf sydd wedi cyflawni troseddau bychan neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae gan yr heddlu ac awdurdodau lleol bwerau eraill y gallant eu rhoi ar waith cyn mynd i’r llys, megis Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Gorchmynion Diogelwch Plant.
Beth bynnag yw’r gosb, nod y system cyfiawnder ieuenctid yw darparu cymorth ac atal ymddygiad troseddol yn gynnar. Mae amrywiaeth o ddedfrydau y gellir eu gorfodi, gan gynnwys:
- Dedfryd o garchar (carcharu mewn sefydliad troseddwyr ifanc)
•Gorchymyn Dalfa a Hyfforddiant (DTO), lle mae’n rhaid i chi gwblhau hanner cyntaf eich dedfryd yn y ddalfa, yna cael eich goruchwylio gan wasanaethau cymdeithasol neu swyddog prawf ar gyfer yr ail hanner.
- Gorchymyn Goruchwyliaeth ac Arolygiaeth Dwys (ISSO), lle cewch eich goruchwylio gan aelod o wasanaethau cymdeithasol, swyddog prawf neu dîm troseddu ieuenctid. Yn ystod y tri mis cyntaf, byddwch yn treulio o leiaf 25 awr yr wythnos yn cael eich goruchwylio wyneb i wyneb, ond byddwch yn destun arolygiaeth 24 awr o’r dydd, saith diwrnod o’r wythnos drwy gydol y gorchymyn.
- Gorchymyn Cyrffyw sy’n cael ei Fonitro’n Electronig, lle bydd rhaid i chi wisgo ‘tag’ electronig o amgylch eich garddwrn neu bigwrn i sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag amodau’r cyrffyw.
- Gorchymyn Cynllun Gweithredu, lle bydd y llys yn gorfodi amodau penodol y bydd rhaid i chi gydymffurfio â hwy am gyfnod o dri mis. Bydd y cynllun yn cynnwys gweithgareddau cosb, ailsefydlu a gwneud iawn.
- Gorchymyn Gwneud Iawn, lle mae’n rhaid i chi ‘dalu yn ôl’ i’r dioddefwr neu i’r gymuned. Er enghraifft, glanhau graffiti a wnaethoch, neu anfon llythyr o ymddiheuriad.
- Gorchymyn Cyfeirio, sy’n golygu bod rhaid i chi gydymffurfio â chytundeb sy’n cael ei osod gan banel sy’n cael ei arwain gan y gymuned, mewn ymgais i wneud iawn am y drosedd ac i newid eich ymddygiad troseddol.
- Gorchymyn Rhieni, sy’n cyfarwyddo eich rhiant neu warcheidwad i fynychu sesiynau cynghori neu sesiynau canllaw am gyfnod penodol.
Bydd methu â chydymffurfio â’r ddedfryd sydd wedi’i gorfodi yn arwain at ragor o gosbau.
Bydd y troseddau mwyaf difrifol yn cael eu clywed yn Llys y Goron, ac os cewch eich collfarnu, bydd dedfryd o garchar yn cael ei gorfodi yn ddi-os.