Mae tystion yn chwarae rôl allweddol yn y system cyfiawnder troseddol. Yn y pen draw, fe allai eich gwybodaeth chi atal rhagor o droseddau rhag digwydd, a chynorthwyo i ddod â throseddwyr i gyfiawnder.
Gall bod yn dyst i drosedd fod yn brofiad emosiynol. Efallai y byddwch yn cael sioc neu yn grac gyda’r hyn a weloch, neu’n teimlo’n ansicr ynghylch reportio’r mater i’r heddlu.
Gyda rhai troseddau, nid yw’n ymddangos fod yna ddioddefwyr, ond fe allant gael effaith negatif o hyd ar y gymuned. Er enghraifft, byddai graffiti ar wal swyddfa’r post lleol yn edrych fel rhywbeth bach, ond byddai’n gallu achosi gofid i ymwelwyr â swyddfa'r post a phreswylwyr gerllaw.
Os ydych wedi bod yn dyst i drosedd, nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i’w reportio, ond fe allai eich cyfraniad wneud gwahaniaeth mawr i’r ymchwiliad. Nid yw reportio gwybodaeth am drosedd o reidrwydd yn golygu y bydd rhaid i chi ymddangos yn y llys yn ddiweddarach.
Os byddwch yn dewis reportio gwybodaeth am drosedd, bydd Heddlu De Cymru yn cymryd y mater o ddifrif. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth y gallwch ei ddarparu.
Yn yr adran hon, mae gwybodaeth ar wneud datganiad, ymddangos yn y llys fel tyst, a gwybodaeth ar ddiogelu tystion.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr, yr elusen genedlaethol annibynnol ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan drosedd, hefyd yn darparu gwasanaeth cymorth cynhwysfawr ar gyfer tystion. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0845 612 1900 rhwng 8am a 8pm neu ewch i
www.victimsupport.org.uk