Mae’n anghyfreithlon i fygwth neu ddychryn tyst.
Mae mesurau arbennig yn eu lle yn y rhan fwyaf o lysoedd ar gyfer tystion sy’n agored i niwed neu sydd o dan fygythiad.
Maent yn cynnwys:
- Opsiwn i’r tyst gael ei recordio’n rhoi tystiolaeth a chael ei gwestiynu ar fideo yn hytrach na mynd i’r achos.
- Eistedd mewn ystafell wahanol i ystafell y llys, a rhoi tystiolaeth drwy gyswllt teledu byw.
- Gosod sgrin o amgylch y blwch tystion, fel na all y diffynnydd a’r tyst weld ei gilydd.
- Y tyst yn cael ei gwestiynu gan y parti sy’n gwrthwynebu cyn yr achos.
- Gosod yr ystafell fel bod y tyst ond yn gallu gweld y barnwr, y rheithgor a’r cyfreithwyr.
- Y barnwr a’r cyfreithwyr i beidio â gwisgo eu dillad du a wig ffurfiol fel y byddent yn arfer gwneud yn Llys y Goron, er mwyn gwneud i’r tyst deimlo’n fwy cyfforddus.
- Clirio’r oriel gyhoeddus oni bai am un aelod o’r wasg.
Mae hefyd fesurau arbennig ychwanegol yn eu lle ar gyfer pobl o dan 17 mlwydd oed ac oedolion sy’n agored i niwed (er enghraifft, y rhai sydd â salwch meddwl, anabledd corfforol, neu ddealltwriaeth gyfyngedig).
Er enghraifft, fe allai’r tyst ddefnyddio teclyn cyfathrebu i’w gynorthwyo i roi ei dystiolaeth, neu fe allai fod cyfryngwr cymwys gerllaw.
Yn y pen draw, y llys fydd yn penderfynu os yw unigolyn yn gymwys ar gyfer mesurau arbennig adeg yr achos. Wrth wneud y penderfyniad hwn, bydd yn ymgynghori â chi, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron neu gyfreithiwr y diffynnydd.
Cofiwch, mae’r Gwasanaeth Tystion ar gael i’ch cynorthwyo i ymdopi gyda’ch profiad. Maent yn cynnig cymorth ymarferol, gwybodaeth ar weithdrefnau’r llys, mynediad haws at gysylltiadau o fewn y llys, a llawer mwy.
Os ydych ar fin rhoi datganiad i’r heddlu neu roi tystiolaeth mewn llys, a’ch bod yn teimlo dan fygythiad wrth rywun, reportiwch y peth i’r swyddog sy’n delio â’ch achos cyn gynted â phosib.