Os byddwch yn dyst i drosedd ac yn dewis rhoi eich gwybodaeth i’r heddlu, efallai bydd angen i chi wneud datganiad.
Bydd datganiadau fel arfer yn cael eu cymryd ar gyfer troseddau mwy difrifol. Os nad chi yw dioddefwr y digwyddiad, yna bydd eich datganiad yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r hyn mae’r dioddefwr neu’r sawl sy’n cael ei amau wedi dweud. Bydd y swyddog ymchwilio yn eich hysbysu os bydd angen datganiad.
Beth sy’n rhaid i mi ei wneud?
Fel arfer, bydd y swyddog heddlu yn holi cwestiynau ynghylch beth ddigwyddodd er mwyn ysgrifennu cofnod o’r wybodaeth a roesoch. Bydd yna raid i chi ddarllen drwy’r datganiad a’i arwyddo i ddatgan fod y wybodaeth yn gywir.
Os oes unrhyw anghysondebau yn y datganiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn hysbysu’r swyddog er mwyn eu cywiro. Mae’n bwysig fod y datganiad yn gywir, am y gallwch gael eich holi ar y wybodaeth yn y llys yn ddiweddarach. Unwaith i chi ei arwyddo, mae’n dod yn rhan o’r dystiolaeth ac ni ellir ei dynnu yn ôl.
Rydym yn deall y gallwch fod yn teimlo’n ofidus wedi’ch profiad, a bydd ein swyddogion yn ceisio gwneud y broses o roi datganiad mor rhwydd â phosibl ar eich cyfer. Os bydd angen toriad arnoch chi ar unrhyw adeg, dim ond holi sydd angen ei wneud.
Pan fydd y datganiad wedi’i gwblhau, byddwch yn cael eich holi pa ddyddiadau na allwch ddod i’r llys. Os bydd angen i chi roi tystiolaeth yn y llys, byddant yn ceisio osgoi cynnal y prawf ar y dyddiadau yr ydych wedi eu nodi.