South Wales Police

Tystion yn y Llys

Tystion yn y Llys

Os ydych yn teimlo’n betrus wrth feddwl am fynd i’r llys fel tyst, cofiwch fod cymorth a chefnogaeth ar gael. Mae’r dystiolaeth y byddwch yn ei rhoi i’r rheithgor yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr a bydd yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr iawn.

Sut byddaf yn gwybod os bydd rhaid i mi fynd i’r llys?

Os bydd eich angen yn y llys, bydd y swyddogion sy’n delio â’r ymchwiliad yn eich hysbysu. Byddant yn dweud wrthych ble a phryd bydd yr achos yn cael ei gynnal, ac yn rhoi cymorth ychwanegol i’ch cynorthwyo i baratoi.

Os ydych yn dyst ac nid yn ddioddefwr i’r drosedd honedig, mae’n llai tebygol y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth yn y llys. Fodd bynnag, os yw’r diffynnydd yn pledio ‘dieuog’ neu yn gwadu rhan bwysig o’r cyhuddiad, mae siawns dda y bydd rhaid i chi fynd i’r llys.

Os caf fy hysbysu fod angen i mi roi tystiolaeth yn y llys, oes rhaid i mi fynd?

Os ydych yn cwblhau datganiad tyst gyda swyddog heddlu ac yna yn cael eich holi i fynd i’r llys i roi tystiolaeth, mae’n rhaid i chi fynd.

Os oes gan y llys reswm i gredu na fyddwch yn mynd i’r achos yn wirfoddol, fe allant godi gwŷs tyst yn eich erbyn. Byddwch mewn dirmyg llys os byddwch yn methu ymddangos wedi derbyn y gwŷs. Bydd hyn yn golygu y caiff warant ei gyhoeddi ar gyfer eich arestio.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch mynd i’r llys, hysbyswch yr unigolyn a wnaeth y cais am eich presenoldeb cyn gynted â phosib.

Rwyf wedi clywed am wahanol fathau o lysoedd. Pa un y byddaf i yn mynd iddo?

Bydd y sawl sy’n eich hysbysu fod rhaid i chi roi tystiolaeth yn y llys yn nodi pa lys y byddwch yn mynd iddo.

Dyma’r tri prif math o lys y bydd efallai raid i chi roi tystiolaeth ynddynt:

Llys Ynadon - Dyma ble mae’r rhan fwyaf o achosion troseddol sy’n mynd i’r llys yn cael eu cynnal. Bydd yr ynad(on) yn gwrando ar eich tystiolaeth a’r holl wybodaeth arall, ac yna’n penderfynu ar y dyfarniad ac, os yw’n berthnasol, y ddedfryd.

Llys y Goron - Dyma ble mae’r troseddau mwyaf difrifol yn cael eu cynnal, neu os yw’r diffynnydd wedi gofyn i’r achos gael ei gynnal gan reithgor. Bydd y rheithgor yn dweud wrth y barnwr eu penderfyniad ynghylch y dyfarniad ac, os yw’n berthnasol, bydd y barnwr yn penderfynu ar y ddedfryd. Mae rhai achosion mewn llysoedd ynadon yn cael eu trosglwyddo i Lysoedd y Goron os yw’r ynadon yn teimlo nad oes ganddynt y grym i osod dedfryd mor ddifrifol ag y mae’r drosedd yn ei haeddu.

Llys Ieuenctid - Mae achosion yn erbyn diffynyddion o dan 18 mlwydd oed yn cael eu cynnal mewn llys ieuenctid gan ynadon neu farnwr rhanbarth. Fodd bynnag, os yw’r drosedd yn un ddifrifol iawn neu os yw’r achos yn erbyn y person ifanc yn cynnwys oedolyn, mae’n rhaid iddynt fynychu llys ynadon neu Lys y Goron.

Pwy fydd yn ystafell y llys?
Yn ogystal â’r ynadon / rheithgor a’r barnwr, byddwch chi ac unrhyw dystion eraill, y diffynnydd, cyfreithwyr y diffynnydd a’r erlyniad, clerc y llys sy’n trefnu’r achos a thywyswyr y llys sy’n tywys y tystion.
Fe all swyddogion heddlu, swyddogion prawf, aelodau o’r Gwasanaeth Tystion, newyddiadurwyr ac aelodau’r cyhoedd (os oes galeri cyhoeddus) hefyd fynychu.

Beth fydd yn digwydd cyn i mi fynd i’r llys?
 
Oherwydd amserlenni tynn, nid yw pobl yn dueddol o wybod union amser a dyddiad yr achos tan y prynhawn cyn hynny. Pan roesoch eich datganiad tyst fodd bynnag, cawsoch eich holi pa ddyddiadau nad oeddent yn gyfleus i chi fynd i’r llys.

Os ydych yn dyst i’r diffynnydd, bydd cyfreithiwr y diffynnydd yn cysylltu â chi i’ch hysbysu o’r amser a’r dyddiad.

Os ydych yn dyst i’r erlyniad, byddwch yn derbyn llythyr ‘Rhybudd Tystion’ gennym i ddechrau, sy’n rhoi bras ddyddiad ar gyfer yr achos. Mae’n annhebygol y byddwch yn derbyn mwy na phythefnos o rybudd cyn dyddiad yr achos, ond fe ddylai’r cyfreithiwr allu dweud wrthych os bydd yr achos yn cael ei glywed yn yr wythnos gyntaf neu’r ail wythnos.

Amser i ffwrdd o’r gwaith - Os oes angen i chi gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, dangoswch eich ‘Rhybudd Tystion’ i’ch cyflogwr fel prawf. Os byddwch yn colli tâl o ganlyniad, cewch hawlio lwfans tystion ar gyfer enillion a gollwyd.

Gwyliau - Bydd disgwyl i chi fynychu’r llys beth bynnag yw eich cynlluniau o ran gwyliau.

Salwch - Os digwydd eich bod yn rhy sâl i roi tystiolaeth ar ddyddiad y llys, bydd angen i chi hysbysu clerc y llys cyn gynted â phosibl. Nesaf, gofynnwch i’ch Meddyg Teulu am dystysgrif feddygol i’w hanfon at y swyddog a wnaeth y cais i chi fod yn bresennol.

Beth yw’r Gwasanaeth Tystion?

Caiff y Gwasanaeth Tystion ei redeg gan Gymorth i Ddioddefwyr, ac mae’n rhoi i bob tyst gymorth a gwybodaeth werthfawr.

Does dim hawl trafod eich tystiolaeth gyda hwy, ond maent yn darparu rhywun y gallwch siarad am eich teimladau â hwy, yn ogystal â chymorth ymarferol, gwybodaeth am weithdrefnau’r llys, a mynediad haws at gysylltiadau o fewn y llys.

Os hoffech, gall y Gwasanaeth Tystion hefyd drefnu eich bod yn ymweld â’r llys cyn dyddiad yr achos.

Oes cymorth ar gael yn y llys ar gyfer tystion ‘sy’n agored i niwed’?

Gall tyst sy’n ‘agored i niwed’ gynnwys:

  • Rhywun sy’n 17 mlwydd oed neu’n ifancach
  • Rhywun sy’n dioddef salwch meddwl
  • Rhywun sydd ag anabledd corfforol neu anhwylder corfforol
  • Rhywun sydd â dealltwriaeth gyfyngedig
  • Tyst sydd ‘o dan fygythiad’.

I gael gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael, ewch i’r adran Diogelu Tystion.
 
Oes modd hawlio unrhyw dreuliau am fy mhresenoldeb?

Oes, mae modd hawlio treuliau, ond mae’r swm yn dibynnu ar y cyfnod o amser yr oedd angen i chi fod i ffwrdd o’r gwaith neu eich cartref er mwyn rhoi’r dystiolaeth.

Gellir hawlio am gostau teithio, bwyd, colli enillion, a cholled ariannol arall fel gofal plant.

Os ydych yn dyst i’r diffynnydd, gofynnwch i aelod o staff yn y llys am ffurflen hawlio.
Os ydych yn dyst i’r erlynydd, gofynnwch i gynrychiolydd perthnasol Gwasanaeth Erlyn y Goron am ffurflen hawlio pan fyddwch yn cyrraedd y llys. Lle bo modd, cewch eich talu 5-10 diwrnod gwaith wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron dderbyn ffurflen gywir.

Beth ydw i’n gwneud pan fyddaf yn cyrraedd y llys?
 
Ewch i’r dderbynfa a rhoi enw’r diffynnydd i’r staff, byddant yn dweud wrthych lle i aros. Os ydych yn teimlo’n anghyfforddus yn aros tu allan i ystafell y llys, dywedwch wrth un o dywyswyr y llys neu wrth gynrychiolydd y Gwasanaeth Tystion, a fydd yn chwilio ardal dawel ar eich cyfer.


Os ydych yn dyst i’r erlyniad, mae’n debygol y bydd cynrychiolydd o Wasanaeth Erlyn y Goron yn cwrdd â chi yn y llys ac yn cyflwyno’i hun.

Cofiwch beidio â siarad gydag unrhyw un am y dystiolaeth yr ydych ar fin ei rhoi, am y gallai effeithio ar yr achos.

Sut ydw i’n rhoi tystiolaeth?

Os ydych wedi gwneud datganiad ac yr hoffech ei adolygu cyn mynd i mewn i ystafell y llys i roi tystiolaeth, mae modd trefnu hyn. Gofynnwch i swyddog yr heddlu neu dywysydd y llys os gallwch gael copi.

Ni allwch fynd i mewn i ystafell y llys yn ystod eich achos nes ei bod yn amser i chi roi eich tystiolaeth. Pan fydd eich tro wedi dod, cewch eich tywys i’r blwch tystion, lle bydd rhaid i chi dyngu i ddweud y gwir ar y Beibl neu addo dweud y gwir.

Mae rhoi tystiolaeth yn y llys yn wahanol i roi datganiad gyda’r heddlu. Y tro hwn, byddwch yn derbyn cwestiynau oddi wrth gyfreithiwr yr erlyniad a chyfreithiwr y diffynnydd. Fe allai’r ynad, clerc y llys a’r barnwr rhanbarth hefyd holi cwestiwn i chi ar unrhyw adeg.

Cofiwch siarad yn glir ac yn eglur a pheidiwch ag ofni gofyn i glywed cwestiwn eto os nad ydych wedi deall.

Beth sy’n digwydd pan fyddaf wedi gorffen rhoi tystiolaeth?

Unwaith y byddwch wedi gorffen rhoi tystiolaeth bydd yr ynad neu’r barnwr yn eich rhyddhau, ond mae gennych yr hawl i aros a gwrando ar weddill yr achos os hoffech.

Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice