Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i gefnogi dioddefwyr troseddau, ac mae’n ymdrechu’n barhaus i leihau troseddu fel y bydd llai o bobl yn dioddef. .
Os ydych chi yn ddioddefwr, mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth a chefnogaeth ar gael ar eich cyfer. Mae adran hon y wefan yn cynnwys cyngor i ddioddefwyr, gan gynnwys manylion cyswllt defnyddiol.
Rydym yn eich annog i reportio unrhyw ddigwyddiadau er mwyn gallu dod â throseddwyr i gyfiawnder.
Mae ein swyddogion yn deall fod cael profiad sy’n ymwneud â throsedd yn gallu bod yn drawmatig, ac yn unol â’n Hadduned Plismona, rydym yn addo i’ch hysbysu am gynnydd eich achos, o’r cychwyn hyd ei ddiwedd.
Cofiwch, mewn argyfwng ffoniwch 999 bob tro.
I reportio trosedd nad yw’n argyfwng, ffoniwch 101.