Mae cam-drin domestig yn digwydd pan fydd unigolyn yn dioddef camdriniaeth gorfforol, seicolegol, emosiynol, rhywiol neu ariannol gan eu partner, partner blaenorol, neu aelod o’r teulu sy’n oedolyn.
Gall dioddefwyr brofi cyfuniad o ymddygiad camdriniol, er enghraifft:
- Trais corfforol
- Bygythiadau ar lafar a sylwadau sy’n bychanu
- Camdriniaeth seicolegol ac emosiynol fel cael eich gwahanu oddi wrth eich teulu neu eich cywilyddio
- Trais rhywiol fel treisio
- Rheolaeth ariannol fel dal arian yn ôl
Gall dynion a menywod ddioddef cam-drin domestig. Mae’n bwysig cofio nad eich bai chi ydyw; yr un sy’n cam-drin sydd â’r broblem – nid y chi.
Mae Heddlu De Cymru yma i’ch helpu i fyw eich bywyd yn rhydd rhag ofni camdriniaeth yn ogystal â’r gamdriniaeth ei hun.
Mae gennym bersonél heddlu arbenigol ym mhob rhanbarth sy’n ymwybodol o’r anawsterau y gallech fod yn eu hwynebu, a gallant gynnig cyngor ymarferol ar sut i atal y gamdriniaeth, ar eich cyfer chi neu ar gyfer rhywun arall.
Yn ystod yr ymchwiliad, ac wedi hynny, eich diogelwch chi a’ch plant fydd ein blaenoriaeth gyntaf. Bydd ein swyddogion yn hapus i drafod unrhyw bryderon sydd gennych, a gallant ddarparu cyfeiriadau a rhifau ffôn defnyddiol ar gyfer sefydliadau cymorth sydd yn agos atoch.
Mae Heddlu De Cymru yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner statudol a gwirfoddol i gynorthwyo pob dioddefwyr sydd yn risg uchel, ac rydym yn cwrdd yn rheolaidd i ddatblygu cynlluniau diogelwch effeithiol er mwyn diogelu dioddefwyr, plant ac unrhyw berson arall sy’n agored i niwed.
Nid oes rhaid eich bod yn profi cam-drin domestig ar y pryd er mwyn siarad â swyddog heddlu.
Mae gennym hefyd nifer o adnoddau a gallwn eu rhoi ar waith i ddiogelu dioddefwyr yn y tymor hir, gan gynnwys:
- Gwylfa Heddlu, sy’n darparu presenoldeb heddlu gweladwy i’r dioddefwr a’r camdriniwr honedig. Mae’n cynnwys ymweliadau i’r cartref a phatrolau yn ardal y digwyddiad yn rheolaidd wedi i ddigwyddiadau cam-drin domestig gael eu reportio.
- Gwylfa Cocŵn, sy’n gofyn am gymorth cymdogion, teulu ac asiantaethau perthnasol er mwyn diogelu’r dioddefwr ymhellach drwy gysylltu â’r heddlu yn syth os oes rhagor o ddigwyddiadau yn digwydd. Bydd ‘Gwylfa Cocŵn’ ond yn cael ei rhoi ar waith gyda chaniatâd gwybodus y dioddefwr.
- Systemau larwm
- Ffonau symudol
Gellir cysylltu ag Unedau Cam-drin Domestig Heddlu De Cymru ar y rhifau ffôn canlynol:
Merthyr Tudful: 01685 724260
Pontypridd a Rhondda Cynon Taf: 01443 743742
Caerdydd: 029 2052 1212
Bro Morgannwg: 01446 746988
Pen-y-bont ar Ogwr: 01656 305826/305821
Castell-nedd a Phort Talbot: 01639 640248
Abertawe: 01792 562759
Os ydych yn credu eich bod chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig, reportiwch y peth i’r heddlu drwy ffonio 101.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.