Mae trais er anrhydedd yn drosedd sydd wedi, neu a allai fod wedi, ei chyflawni er mwyn diogelu anrhydedd y teulu a / neu’r gymuned.
Mae’n digwydd o ganlyniad i gredoau diwylliannol, nid oherwydd crefydd. Os yw’n digwydd oherwydd perthynas â rhywun o’r rhyw arall, sut mae person yn gwisgo, neu oherwydd dewis o ffrindiau, mae’r troseddwyr yn credu fod y dioddefwr wedi dod â chywilydd ar eu teulu neu eu cymuned drwy dorri arferion a thraddodiad.
Gall trais er anrhydedd ddigwydd mewn nifer o ddiwylliannau, a gall effeithio ar ddynion a menywod.
Mae troseddau’n cynnwys:
- Priodas dan Orfod
- Carchariad ffug
- Anffurfio
- Ymosodiad Rhywiol a Threisio
- Anffurfio Organau Cenhedlol Benywaidd
- Herwgipio
- Aflonyddu
- Stelcio
- Ymosod
Mae Heddlu De Cymru ymrwymo’n llawn i fynd i’r afael â thrais er anrhydedd a’i atal, a chynorthwyo’r holl ddioddefwyr.
Mae gennym swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig a fydd, ynghyd â’n asiantaethau partner, yn gweithio gyda dioddefwyr i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu.
Rydym yn deall fod cyfrinachedd yn hynod o bwysig, ac fel dioddefwr ni fydd unrhyw gyswllt rhyngoch chi â Heddlu De Cymru neu ei asiantaethau partner yn cael ei wneud yn hysbys heb eich caniatâd. Eich diogelwch yw ein blaenoriaeth.
Os ydych yn credu eich bod chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn dioddef trais er anrhydedd, gallwch ei reportio drwy ffonio 101.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.