South Wales Police

Anffurfio Organau Cenhedlol Benywaidd

Anffurfio Organau Cenhedlol Benywaidd

Mae anffurfio organau cenhedlol benywaidd yn cyfeirio at weithredoedd sy’n gwaredu organau cenhedlol benywaidd yn rhannol neu’n gyfan gwbl, neu’n anafu’r organau cenhedlol benywaidd am resymau diwylliannol neu am resymau nad ydynt yn therapiwtig.
 
Mae Anffurfio Organau Cenhedlol Benywaidd yn torri hawliau dynol a gall fod yn berygl bywyd. Mae’r weithred yn aml yn cael ei chyflawni gan ymarferwyr heb hyfforddiant ac mae’n brofiad trawmatig iawn i’r dioddefwyr.
 
Mae’n digwydd oherwydd credoau diwylliannol dwfn yn hytrach na chrefydd, a dynion gychwynnodd yr arfer er mwyn rheoli rhywioldeb merched. Mae ymchwil wedi olrhain ei darddiad yn ôl i’r bumed ganrif CC.
 
Mae Anffurfio Organau Cenhedlol Benywaidd yn drosedd o dan Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlol Benywaidd 2003, sydd hefyd yn cynnwys y drosedd newydd o gymryd plentyn allan o’r DU at ddibenion Anffurfio Organau Cenhedlol Benywaidd.
 
Mae Heddlu De Cymru’n parhau i weithio gydag asiantaethau partner ym meysydd proffesiynol iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, er mwyn gallu atal a delio gydag unrhyw achosion o Anffurfio Organau Cenhedlol Benywaidd yn effeithiol.
 
Os ydych yn credu eich bod chi neu rywun yr ydych yn ei hadnabod wedi dioddef Anffurfio Organau Cenhedlol Benywaidd, gallwch ei reportio drwy ffonio 101.
 
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.
Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice