Mae ymosodiad rhywiol (neu ymosodiad anweddus) yn digwydd pan gaiff person ei orfodi i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol. Gallai hyn fod yn weithred gorfforol, fel cyffwrdd â rhywun mewn ffordd rywiol yn groes i’w dymuniad, neu yn weithred seicolegol, fel gorfodi rhywun i edrych ar weithgaredd rhywiol.
Mae treisio yn ffurf ddifrifol iawn o ymosodiad rhywiol. Mae’n digwydd pan fydd dyn yn fwriadol dreiddio gwain, anws neu geg rhywun arall, heb eu caniatâd.
Gall dynion a menywod ddioddef trais rhywiol gydag effeithiau dinistriol.
Bydd Heddlu De Cymru yn trin pob digwyddiad o dreisio neu ymosodiad rhywiol yn hynod o ddifrifol, a bydd yn ymchwilio i bob digwyddiad yn drylwyr.
Mae ein swyddogion, sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, yn deall gofid dioddefwyr yn yr achosion hyn, ac maent yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o asiantaethau penodedig, fel Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol, i sicrhau fod dioddefwyr yn derbyn y gofal gorau posibl.
Fel dioddefwr, byddwch yn derbyn ein cefnogaeth lawn yn cychwyn pan fyddwch yn reportio’r digwyddiad, yr holl ffordd drwodd hyd nes diwedd yr ymchwiliad ac yn ystod yr achos llys.
Mae’n bwysig fod pob digwyddiad o drais rhywiol yn cael ei reportio, er mwyn i ni allu dod â throseddwyr i gyfiawnder ac atal pobl eraill rhag dioddef. Y cynharaf y caiff digwyddiad ei reportio, y gorau yw ein cyfle i gasglu unrhyw dystiolaeth gorfforol hanfodol cyn ei bod yn cael ei cholli.
Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu dreisio, cysylltwch â ni drwy ffonio 101.
Cofiwch, mewn argyfwng ffoniwch 999 bob tro.