Mae Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yn safle diogel lle gall dioddefwyr trais rhywiol dderbyn cymorth meddygol, gwasanaeth cynghori hirdymor a chymorth cyfreithiol i gyd yn yr un man.
Mae’r ganolfan yn galluogi dioddefwyr i dderbyn y gofal meddygol y mae ei angen arnynt, tra bo ein swyddogion heddlu, sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, yn chwilio am wybodaeth i gefnogi ymchwiliad i’r digwyddiad.
Mae’r gwahanol bartneriaid yn y ganolfan yn cydweithio er mwyn cynnig gwasanaeth o’r safon uchaf i ddioddefwyr, fel ffordd o’u cynorthwyo a cheisio lleihau’r dinistr a achoswyd gan y drosedd maent wedi ei dioddef.
Os ydych wedi dioddef o drais rhywiol ond heb ei reportio i’r heddlu eto, mae dal modd i chi atgyfeirio eich hun at un o’r canolfannau drwy ffonio 01685 350099.
Dyma’r Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yn Ne Cymru:
Cardiff SARC
Safe Island
Cardiff Royal Infirmary
Newport Road
Cardiff
CF24 0SZ
Tel: 02920 335 795
Fax: 02920 335 796
Merthyr Tydfil SARC
New Pathways
Willow House
11 Church Street
Merthyr Tydfil CF47 0BS
Tel: 01685 379 310
Website: www.newpathways.co.uk
Email: enquiries@newpathways.co.uk
Swansea SARC
Beech Tree Centre
Emily Phipps House
Hendrefoelan Student Village
Killay
Swansea
SA2 8NB
Tel: 01792 206885