South Wales Police

Mae eich barn yn cyfrif

Mae eich barn yn cyfrif

Poll from Snap Surveys ...

Bwriad Heddlu De Cymru yw ceisio bod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, felly rydym bob tro’n croesawu eich sylwadau.

Mae’r adran hon o wefan y Llu yn caniatáu i chi lenwi ein holiaduron ar-lein ac, yn y pen draw, gweld canlyniadau a chylchlythyrau o’n hymgynghoriadau a’n digwyddiadau.  I gymryd rhan yn ein harolygon cliciwch ar y dolenni perthnasol isod.

 

Mae eich Sylwadau’n Cyfrif Cliciwch yma
Arolwg i ddweud wrthym am unrhyw ‘wasanaeth cwsmer ardderchog’ yr ydych wedi ei gael gan staff Heddlu De Cymru.

Ymdrechwn i ddarparu lefel uchel o wasanaeth cwsmer a’n nod yw cyflawni hyn drwy un o flaenoriaethau’r llu, “Gwneud i Bob Cysylltiad Gyfrif”.  Gall eich sylwadau ein cynorthwyo i atgyfnerthu ansawdd y gwasanaeth drwy gydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth.


Ymgynghoriad yn y dyfodol
Os hoffech i’ch manylion cyswllt  gael eu hychwanegu at ein cronfa ddata ymgynghori er mwyn i chi gael eich ystyried i gyfranogi mewn arolygon a digwyddiadau ymgynghori yn y dyfodol, cliciwch yma.

A wnewch chi fod yn ymwybodol y caiff eich manylion eu defnyddio gan Heddlu De Cymru dim ond ar gyfer dibenion ymgynghori a chant eu cadw am hyd at 2 flynedd.

Os hoffech dderbyn yr arolygon hyn mewn fformat gwahanol, neu os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, cysylltwch â’r tîm ymgynghori ar 01656 762 987 a gadewch neges, neu gallwch ein e-bostio yn Consultation@south-wales.pnn.police.uk

A fyddech cystal â nodi na ddylid defnyddio’r arolygon hyn ar gyfer riportio troseddau.

Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice