Arolwg Hyder Lleol
Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed heriol ar gyfer y gwasanaeth heddlu i gynyddu, i 60% erbyn 2012, cyfradd y bobl sy’n cytuno bod:
“yr heddlu a’r cyngor lleol yn mynd i’r afael â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu sydd o bwys yn yr ardal hon”
Mae hyder y cyhoedd yn yr heddlu ac asiantaethau lleol eraill yn allweddol er mwyn mynd i’r afael yn effeithiol â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwneud i'r cyhoedd deimlo’n ddiogel.
Mae Heddlu De Cymru wedi dechrau rhaglen arolwg dreigl, gan ddefnyddio Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH), i ymweld â chyfeiriadau a ddewisir ar hap a chynnal arolwg wyneb y wyneb ar blismona a throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal leol.
Mae’r graff isod yn dangos canran y bobl a gytunodd gyda’r datganiad uchod yn ôl ardal awdurdod lleol.
Mae’r canlyniadau yn cyfeirio at gyfuniad o ymarferiadau drwy’r post a gynhaliwyd ar ddiwedd 2009 ac arolygon wyneb yn wyneb a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2010, sydd erbyn hyn yn fethodoleg safonol ar gyfer y Llu. Mae’r canlyniadau wedi eu seilio ar 600 o arolygon ymhob ardal awdurdod lleol.
Gofynnon ni, dywedoch chi, gwnaethon ni
Er mwyn gwybod sut mae Heddlu De Cymru yn gweithio gyda'i bartneriaid i ddelio â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol lle rydych yn byw:
- ewch i www.einbobi.com a rhowch eich côd post i mewn i “Dod o hyd i’ch cyswllt lleol” - ar eich tudalen ward gallwch gael gwybodaeth am eich swyddog lleol, y blaenoriaethau presennol a osodwyd gan eich cymuned a'r camau a gymerir i fynd i’r afael â nhw.
- darllenwch eich cylchlythyr ward chi sy'n dweud wrthych am berfformiad lleol, cyfarfodydd a mentrau.