Mae pob un o aelodau Heddlu De Cymru yn gwybod pa mor bwysig yw darparu gwasanaeth o’r lefel uchaf posib i’r cyhoedd. Dyma’r sail i bopeth a wnawn.
Fodd bynnag, fe allai fod achlysur pan deimlwch fod ymddygiad aelod o’r heddlu wedi cwympo islaw’r safon ddisgwyliedig. Os bydd hyn yn digwydd, mae hawl gennych i wneud cwyn.
Ac eithrio amgylchiadau arbennig, dylid gwneud cwyn o fewn 12 mis i’r digwyddiad honedig.
Dylai eich cwyn gynnwys:
Pryd / ble oedd y digwyddiad
Beth ddigwyddodd
A oedd unrhyw dystion annibynnol, ac os oedd, sut neu ble y gellir cysylltu â hwy
Prawf o unrhyw ddifrod neu anaf
Sut ydw i’n gwneud cwyn?
Dilynwch unrhyw un o’r camau isod:-
- Ewch i unrhyw orsaf heddlu (does dim rhaid mynd i’ch gorsaf leol), bydd swyddog (arolygydd neu sarsiant fel arfer) yn cwrdd â chi i drafod y mater
- Ysgrifennwch lythyr yn rhoi manylion llawn y digwyddiad i’r Adran Safonau Proffesiynol, Pencadlys Heddlu De Cymru, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU
- E-bostiwch yr Adran Safonau Proffesiynol Professional.Standards@south-wales.pnn.police.uk
- Ewch i’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu sefydliad porth arall (VALREC, Race Equality First, Cyngor Cydraddoldeb Hiliol Bae Abertawe ac ati)
- Cysylltwch â’ch cyfreithiwr neu eich Aelod Seneddol / Aelod Cynulliad
- Ffoniwch Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ar 0845 300 2002
Gallwch hefyd ofyn i rywun wneud cwyn ar eich rhan – os oes ganddynt awdurdodiad ysgrifenedig gennych.
Beth fydd yn digwydd i’m cwyn?
Bydd yr heddlu yn asesu eich cwyn ac yn eich hysbysu am y penderfyniad i’w ddatrys cyn gynted ag y bo modd.
Sut mae Heddlu De Cymru yn delio â chwynion yn ei erbyn?
1. Datrys yn lleol - Mae Datrys yn Lleol yn ffordd hyblyg i ddelio â chwyn, rhaid i’r achwynydd gytuno er mwyn gwneud hyn. Adeg proses Datrys yn Lleol bydd yr achwynydd a’r swyddog ymchwilio sydd wedi’i benodi yn cytuno ar Gynllun Gweithredu ac yn ei ddilyn, sy’n cael ei weithredu gan y swyddog penodedig. Mae’r swyddog sy’n destun y gŵyn yn cael gwahoddiad i ymateb i’r cyhuddiad yn eu herbyn. Os bydd yr achwynydd yn hapus gyda’r camau gweithredu, bydd yn cael ei ddiweddaru er mwyn cwblhau’r broses Datrys yn Lleol. Bydd y materion yn cael eu cyflwyno i’r swyddogion sydd ynghlwm a bydd y Cynllun Gweithredu’n cael ei gwblhau. Yna, bydd yr Adran Safonau Proffesiynol yn ysgrifennu at yr achwynydd i gadarnhau bod y broses wedi’i chwblhau ac yn rhoi copi o’r Cynllun Gweithredu iddynt a gwybodaeth yn ymwneud ag apelio yn erbyn y broses, os oes angen.
2. Archwiliad yr Adran Safonau Proffesiynol – yn yr achosion hyn mae Ymchwilwyr Safonau Proffesiynol yn cael eu penodi i ymchwilio i gwynion nad yw Datrys yn Lleol yn addas ar eu cyfer, neu os bydd Datrys yn Lleol wedi’i wrthod
Wedi i’r mater gael ei ymchwilio, mae’n cael ei ddychwelyd i’r Adran Safonau Proffesiynol er mwyn asesu’r adroddiad a’r argymhellion. Fel sy’n digwydd adeg Datrys yn Lleol, mae’r achwynydd yn cael gwybodaeth yn rheolaidd ar hyd y broses.
3. Ymchwiliad Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu – mae rhai materion, oherwydd nifer o ffactorau, yn gorfod cael eu cyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu. Y Comisiwn sy’n penderfynu a ddylai’r ymchwiliad gael ei ddychwelyd i’r Adran Safonau Proffesiynol neu a fydd y Comisiwn ei hun yn cynnal Ymchwiliad wedi’i Reoli, Ymchwiliad wedi’i Oruchwylio neu Ymchwiliad Annibynnol.
(Mae Ymchwiliadau wedi’u Goruchwylio y Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn cael eu cynnal gan yr heddlu ond o dan oruchwyliaeth y Comisiwn. Mae Ymchwiliadau wedi’u Rheoli y Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn cael eu cynnal gan yr heddlu ond o dan reolaeth ac arweiniad y Comisiwn. Mae Ymchwiliadau Annibynnol Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn cael eu cynnal gan ymchwilwyr y Comisiwn ei hun).
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob mater o ddifrif ac yn ymdrechu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i’r cyhoedd.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cysylltwch â’r Adran Safonau Proffesiynol ar 01656-869406 neu e-bostiwch y cyfeiriad uchod.