South Wales Police

Ymunwch â ni

Ymunwch â ni

Police Officers on duty
Croeso i adran recriwtio gwefan Heddlu De Cymru, lle cewch edrych ar y swyddi gwag cyfredol a gweld gwybodaeth am y nifer o rolau gwahanol sydd ar gael o fewn y sefydliad.

Mae dros 5,000 o bobl eisoes yn gweithio i Heddlu De Cymru, ac rydym wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’n gwasanaethau.
 
Yn anffodus, nid ydym yn recriwtio am Swyddogion Heddlu, Trosglwyddeion Swyddogion Heddlu, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Gwirfoddolwyr yr Heddlu na Staff yr Heddlu ar hyn o bryd.

Datganiad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol. Ein gweledigaeth yw bod y gorau o ran deall anghenion ein cymunedau ac ymateb iddynt, gan ddefnyddio sgiliau a gallu ein staff. Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau unigryw unigolion, sydd wedi’n cynorthwyo i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r bobl o fewn Heddlu De Cymru a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Mae’n dda gennym eich hysbysu bod Heddlu De Cymru’n ymrwymedig i hybu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae gennym Swyddog Gweithredu Cadarnhaol, sy’n gweithio yn yr Uned Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ym Mhencadlys ein Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac y mae ei rôl allweddol yn ymwneud â chynorthwyo ein holl grwpiau lleiafrifol i gwblhau eu ffurflenni cais yn ogystal â darparu digwyddiadau ymgyfarwyddo i gynorthwyo darpar ymgeiswyr i ddeall natur ein gwaith. Rydym yn annog ymgeiswyr o grwpiau lleiafrifol amrywiol yn arbennig i ymgeisio am swyddi gyda Heddlu De Cymru. I gael mwy o wybodaeth am y cymorth y gall ein swyddog ei roi i chi, cysylltwch â’r swyddog yn yr Uned Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 01656 655555 est 70891 neu ar y rhif ffôn symudol 0781 4861903 i gael cymorth pellach.

Mae hyder ein cymunedau yn y gwasanaeth a ddarparwn yn flaenoriaeth allweddol i ni.

Ein nod yw parhau i ddatblygu Heddlu De Cymru yn sefydliad sy’n cynrychioli ac yn adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, drwy sicrhau bod ein strwythurau sefydliadol, prosesau gwneud penderfyniadau a’n ffyrdd o weithio yn croesawu ac yn dathlu gwahaniaethau ac amrywiaeth diwylliannol.

Ar bob adeg, byddwn yn trin unigolion o fewn Heddlu De Cymru a thu allan iddo mewn modd agored a theg, gydag urddas a pharch. Byddwn yn darparu amgylchedd gwaith heb unrhyw aflonyddu, bwlian, erledigaeth na gwahaniaethu anghyfreithlon gan sicrhau cyfle cyfartal o fewn ein holl prosesau ac arferion.

Mae disgwyl i holl aelodau staff, contractwyr a chyflenwyr ddangos ymrwymiad cadarn at yr egwyddorion a’r safonau hyn ac fe’u hanogir i herio unrhyw ymddygiad annerbyniol. Rydym yn cefnogi pob maes amrywiaeth, sef; oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaethau sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a’r Iaith Gymraeg.

Byddwn yn sicrhau bod ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn adlewyrchu’r egwyddorion hyn. Wrth wneud hyn, byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth proffesiynol sy’n bodloni holl anghenion ein cymunedau ac yn rhoi profiad cadarnhaol i’r cyhoedd y gall Heddlu De Cymru ymfalchïo ynddo.

Prif Gwnstabl Peter Vaughan

Share

Stonewall top 100 employer

Stonewall top 100 employer
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.

Yn gadarn o blaid pobl anabl

Yn gadarn o blaid pobl anabl

Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru

Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice