Cwnstabl Gwirfoddol : Amodau Cyflogaeth
Fel cwnstabl gwirfoddol, bydd angen i chi wirfoddoli am o leiaf un ar bymtheg awr y mis. Cewch ddewis pryd yr ydych am weithio, ond ceisiwch roi rhybudd o flaen llaw i’ch arweinydd tîm er mwyn iddynt benderfynu sut i’ch rhoi i weithio yn y ffordd orau.
Yn draddodiadol, nid yw cwnstabliaid gwirfoddol yn derbyn tâl am eu gwaith; mae buddiannau’r rôl yn bersonol yn hytrach nag yn ariannol. Fodd bynnag, cewch eich ad-dalu os byddwch yn mynd i gostau tra ar ddyletswydd, a darperir eich iwnifform yn rhad ac am ddim.