Cwnstabl Gwirfoddol : Proses Recriwtio
Mae pum cam i’r broses recriwtio ar gyfer cwnstabliaid gwirfoddol.
1: Sut i gwblhau’r ffurflen gais
2: Y ganolfan asesu
3: Gwiriadau cefndir ac asesiad meddygol
4: Prawf ffitrwydd
5: Hyfforddiant Ffurfiol
Sut i Gwblhau’r Ffurflen Gais
Y ffurflen gais yw cam cyntaf y broses recriwtio.
Bydd yr atebion a roddwch yn ein cynorthwyo i benderfynu a ydych yn debygol o fod â’r sgiliau a’r gallu sydd eu hangen ar gyfer bod yn gwnstabl gwirfoddol da. Os byddwch yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i gam nesaf y broses recriwtio - y ganolfan asesu.
Dyma ychydig o gyngor ar gyfer cwblhau’r ffurflen:
- Atebwch yr holl gwestiynau hyd eithaf eich gallu. Os byddwch yn gadael cwestiwn heb ateb, mae’n annhebygol y byddwch yn cyrraedd y cam nesaf.
- Dilynwch y sylwadau sy’n cael eu rhoi ar gyfer pob cwestiwn. Bydd y rhain yn helpu i roi strwythur mwy eglur i’ch atebion.
- Defnyddiwch enghreifftiau o’ch bywyd gwaith, bywyd cymdeithasol, bywyd domestig a bywyd addysgiadol i ateb y cwestiynau. Yn yr enghreifftiau hyn, rydym yn chwilio am dystiolaeth o ymddygiadau penodol y mae ymchwil wedi dangos eu bod yn hanfodol i waith yr heddlu.
- Byddwch yn benodol: rydym eisiau gwybod beth wnaethoch CHI ei ddweud neu ei wneud ar yr achlysur o dan sylw er mwyn delio â’r sefyllfa. Felly, mae’n bwysig mai enghreifftiau o’ch profiadau chi eich hun a ddarparwch a'u bod mor fanwl â phosibl.
- Ceisiwch ddefnyddio enghreifftiau a fu’n anodd neu’n heriol i’w datrys. Mae’r atebion hyn yn dueddol o gael marciau uwch.
- Ysgrifennwch yn glir ac yn gryno. Rydym yn disgwyl i atebion fod wedi’u canolbwyntio, yn gryno ac wedi’u hysgrifennu yn rhugl, fel y byddai angen i unrhyw adroddiad heddlu neu ddatganiad gael ei ysgrifennu. Mae hyn yn golygu ysgrifennu brawddegau llawn yn hytrach na nodiadau neu bwyntiau bwled.
- Talwch sylw at eich llawysgrifen, sillafu, atalnodi a gramadeg. Cofiwch mai cais ffurfiol yw hwn felly mae defnyddio jargon neu slang yn annerbyniol.
- Peidiwch ag ychwanegu taflenni, ysgrifennu tu allan i’r gofod a ddarparwyd na ysgrifennu rhwng y llinellau. Ni fydd marciau’n cael eu rhoi am dystiolaeth a roddwyd tu allan i’r gofod a ddarparwyd.
Cofiwch, os byddwch yn aflwyddiannus, ni fyddwch yn gallu gwneid cais eto am chwe mis - felly gwnewch eich gorau glas.