South Wales Police

Ydw i’n gymwys?

Cwnstabl Gwirfoddol : Ydw i’n gymwys?

Mae’r canllawiau ar gyfer ymuno â’r Gwnstabliaeth Wirfoddol bron union yr un fath â’r rhai ar gyfer dod yn swyddog heddlu arferol.

Rydym yn annog pobl o bob cefndir i ymuno â’r sefydliad. Fodd bynnag mae rhai galwedigaethau yn cael eu hystyried yn anaddas ar gyfer dod yn gwnstabl gwirfoddol, er enghraifft, os ydych yn aelod o’r lluoedd arfog, yn gweithio ar y drysau neu’n gweithio i sefydliad diogelwch.

Isod, mae rhai canllawiau ar gyfer ymgeiswyr newydd:

Oedran
Rhaid i chi fod yn 18 mlwydd oed o leiaf i fod yn swyddog heddlu. Does dim cyfyngiad oedran uchaf, ond cofiwch mai’r oedran ymddeol arferol ar gyfer cwnstabliaid yw 60.

Cenedlaetholdeb
You must be a British Citizen, citizen from the European Economic Area (EEA), Commonwealth citizen or foreign national with no restrictions on your stay in the United Kingdom.   In accordance with Home Office guidance and the Association of Chief Police Officers’ National Vetting Policy, candidates are reminded that they must have been continually resident in the UK for the three year period immediately before an application is made. This is to satisfy the requirement to vet all applicants in an equitable manner and the UK Police service does not currently have any means of facilitating vetting checks overseas, to the extent required of those who have been resident in the UK.  Applicants, who cannot be vetted, cannot be appointed.

Addysg
Does dim angen addysg ffurfiol, ond bydd angen i chi basio prawf ysgrifenedig, rhifiadol a rhesymu rhesymegol os byddwch yn pasio’r cam ar gyfer y cais cychwynnol. 

Ffitrwydd corfforol
Rhaid i chi fod yn gorfforol ffit er mwyn cwblhau’r dyletswyddau sy’n ofynnol o swyddog heddlu yn effeithiol. Rhaid i ymgeiswyr lwyddo mewn prawf ffitrwydd cyffredinol cyn cael eu penodi.

Iechyd
Rhaid i ymgeiswyr fod ag iechyd da yn feddyliol ac yn gorfforol er mwyn gallu delio â phwysau a gofynion gwaith yr heddlu. Bydd gofyn i chi dderbyn archwiliad meddygol i sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau iechyd gofynnol. Bydd hyn yn cynnwys prawf llygaid, ac yn anffodus os byddwch yn methu bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Cyfyngiadau Taldra
Does dim isafswm nac uchafswm o ran gofynion taldra.

Tatŵs
Mae tatŵs sydd yn arbennig o amlwg, gorliwgar, sarhaus neu’n tanseilio urddas ac awdurdod eich rôl yn annerbyniol. Mae’r canllaw hwn hefyd yn ymwneud â chlustlysau ar yr wyneb.

Statws Ariannol
Bydd pob ymgeisydd yn derbyn archwiliad o’i statws ariannol. Mae’r archwiliadau hyn yn cael eu cynnal am fod swyddogion heddlu yn cael mynediad at wybodaeth freintiedig, a allai eu gwneud yn agored i lygredigaeth. Bydd unrhyw ymgeisydd sydd â dyfarniad Llys Sirol sy’n parhau mewn grym, sydd wedi’i gofrestru’n fethdalwr gyda dyledion sy’n ddyledus, yn cael ei wrthod. Os oes gennych ddyledion methdalwr sydd wedi’u clirio yna bydd rhaid i chi ddarparu Tystysgrif Diwallu gyda’ch cais.

Cofnod Troseddol
You may still be eligible to join the police service if you have minor convictions/cautions, but there are certain offences and conditions that will make you ineligible. This includes anyone who has received a formal caution in the last five years, committed a violent crime or public order offence. Please refer to the National Policing Improvement Agency Circular 01/2010. You can view this document on the NPIA website.

Ceisiadau blaenorol
Cewch wneud cais i un gwnstabliaeth heddlu ar y tro yn unig. Os ydych wedi gwneud cais blaenorol i ymuno â gwasanaeth yr heddlu a fu’n aflwyddiannus, rhaid i chi aros chwe mis o’r dyddiad y cawsoch eich gwrthod cyn gwneud cais eto.

Aelodaeth o’r BNP neu sefydliad tebyg
Mae gan Heddlu De Cymru bolisi o wahardd unrhyw swyddogion neu staff rhag dod yn aelodau o’r BNP, neu sefydliad tebyg, sydd â nodau ac amcanion neu ddatganiadau a allai fynd yn groes i’r ddyletswydd o hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Os ydych yn aelod o’r BNP neu sefydliad tebyg, neu eich bod wedi bod yn aelod yn flaenorol, fe allai eich cais gael ei wrthod.

 

Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel

Yn gadarn o blaid pobl anabl

Yn gadarn o blaid pobl anabl

Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru

Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice