Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu
Yn ei hanfod, mae Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gwneud beth mae’r teitl yn ei ddweud. Mae’n darparu cyswllt hanfodol rhwng y gymuned a gwasanaeth yr heddlu i sicrhau fod pawb yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Drwy ymgysylltu â’r bobl yn eich ardal, byddwch yn cymryd y blaen i ymchwilio i’r hyn mae’r cyhoedd ei eisiau a’r hyn y gall Heddlu De Cymru ei wneud i gael canlyniadau.
Os yw’n ymwneud ag atal goryrru tu allan i’n hysgolion, reportio fandaliaeth, neu leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, bydd eich gwaith yn gwneud gwir wahaniaeth i gadw De Cymru yn ddiogel.
Bydd disgwyl i chi:
- Ffurfio cysylltiadau cadarn hirdymor rhwng y gymuned a gwasanaeth yr heddlu
- Cynorthwyo swyddogion heddlu i leihau troseddau ac ofni troseddau
- Cynnal patrolau amlwg ar droed
- Casglu cudd-wybodaeth am bobl dan amheuaeth a delio â throseddau bychan
- Darparu diogelwch mewn digwyddiadau mawr
Nid oes gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu'r pŵer i arestio, ond yn hytrach mae ganddynt sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn diogelu’r gymuned mewn capasiti nad yw’n wrthdrawiadol.
Byddwch yn ychwanegiad i’r teulu plismona, a bydd eich presenoldeb parhaus yn y gymdogaeth yn rhyddhau adnoddau eraill i ddelio â throseddau mwy difrifol.