South Wales Police

Proses Recriwtio

Cymorth Cymunedol yr Heddlu : Proses Recriwtio

Mae pum cam i’r broses recriwtio ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu.
 
1: Y ffurflen gais
2: Y ganolfan asesu
3: Gwiriadau cefndir ac asesiad meddygol
4: Prawf ffitrwydd
5: Hyfforddiant Ffurfiol
 
Sut i Gwblhau’r Ffurflen Gais

Y ffurflen gais yw cam cyntaf y broses recriwtio.
 
Bydd yr atebion a roddwch yn ein cynorthwyo i benderfynu a ydych yn debygol o fod â’r sgiliau a’r gallu sydd eu hangen ar gyfer bod yn swyddog cymorth cymunedol yr heddlu da. Os byddwch yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i gam nesaf y broses recriwtio - y ganolfan asesu.

Dyma ychydig o gyngor ar gyfer cwblhau’r ffurflen:

 

  • Atebwch yr holl gwestiynau hyd eithaf eich gallu. Os byddwch yn gadael cwestiwn heb ateb, mae’n annhebygol y byddwch yn cyrraedd y cam nesaf.
  • Dilynwch y sylwadau sy’n cael eu rhoi ar gyfer pob cwestiwn. Bydd y rhain yn helpu i roi strwythur mwy eglur i’ch atebion.
  • Defnyddiwch enghreifftiau o’ch bywyd gwaith, bywyd cymdeithasol, bywyd domestig a bywyd addysgiadol i ateb y cwestiynau. Yn yr enghreifftiau hyn, rydym yn chwilio am dystiolaeth o ymddygiadau penodol y mae ymchwil wedi dangos eu bod yn hanfodol i waith yr heddlu.
  • Byddwch yn benodol: rydym eisiau gwybod beth wnaethoch CHI ei ddweud neu ei wneud ar yr achlysur o dan sylw er mwyn delio â’r sefyllfa. Felly, mae’n bwysig mai enghreifftiau o’ch profiadau eich hun a ddarparwch a'u bod mor fanwl â phosibl.
  • Ceisiwch ddefnyddio enghreifftiau a fu’n anodd neu’n heriol i’w datrys. Mae’r atebion hyn yn dueddol o gael marciau uwch.
  • Ysgrifennwch yn glir ac yn gryno. Rydym yn disgwyl i atebion fod wedi’u canolbwyntio, yn gryno ac wedi’u hysgrifennu yn rhugl, fel y byddai angen i unrhyw adroddiad heddlu neu ddatganiad gael ei ysgrifennu. Mae hyn yn golygu ysgrifennu brawddegau llawn yn hytrach na nodiadau neu bwyntiau bwled.
  • Talwch sylw at eich llawysgrifen, sillafu, atalnodi a gramadeg. Cofiwch mai cais ffurfiol yw hwn felly mae defnyddio jargon neu slang yn annerbyniol.
  • Peidiwch ag ychwanegu taflenni, ysgrifennu tu allan i’r gofod a ddarparwyd na ysgrifennu rhwng y llinellau. Ni fydd marciau’n cael eu rhoi am dystiolaeth a roddwyd tu allan i’r gofod a ddarparwyd.

 

Cofiwch, os byddwch yn aflwyddiannus, ni fyddwch yn gallu gwneid cais eto am chwe mis - felly gwnewch eich gorau glas.

Bydd hefyd gofyn i chi weithio patrwm sifft wythnos 40 awr, gyda rhai sifftiau yn cwympo ar benwythnosau neu oriau anghymdeithasol. Mae’r gwasanaeth heddlu ar y cyfan yn arbrofi gyda nifer o wahanol batrymau sifft ar hyn o bryd.

Rhaid i bob recriwt newydd gwblhau chwe wythnos o hyfforddiant ffurfiol yn dilyn cael ei benodi.

 

Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel

Yn gadarn o blaid pobl anabl

Yn gadarn o blaid pobl anabl

Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru

Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice