South Wales Police

Asesiad Meddygol

Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu : Asesiad Meddygol

Rhaid i ymgeiswyr fod yn iach yn feddyliol ac yn gorfforol i ymdopi â phwysau a gofynion gwaith heddlu.  Yna gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus sy’n derbyn cynnig cyflogaeth amodol neu sy’n cael eu rhoi mewn cronfa o ymgeiswyr llwyddiannus rydym yn bwriadu rhoi cynnig amodol iddynt pan fydd swydd ar gael i gwblhau holiadur meddygol a chyflawni archwiliad meddygol, a fydd yn cynnwys prawf golwg, cyn eu hapwyntio.  Bydd methu â bodloni’r safonau meddygol a golwg yn golygu na ellir eich apwyntio.  Os oes gennych anabledd, byddwn yn addasu lle bo’n rhesymol i wneud hynny.

A gaf i wneud cais os oes gen i anabledd?

Noda Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fod gan berson anabledd os oes ganddynt ‘nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar ei g/allu i gyflawni gweithgareddau arferol dydd i ddydd.’

Mae croeso i bobl ag anabledd wneud cais, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud addasiadau rhesymol i alluogi ymgeiswyr anabl i gyflawni’r swydd.  Os oes gennych anabledd, rhowch wybod i ni am y math o addasiad a allai fod ei angen arnoch i’ch helpu i wneud cais i fod yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac i gyflawni’r dyletswyddau.


Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice