South Wales Police

Gwiriadau Cefndir

Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu: Gwiriadau Cefndir

Gwiriadau Cefndir

Os byddwch yn pasio cam y Ganolfan Asesu y broses recriwtio, byddwn yn cynnal gwiriadau diogelwch cefndir i weld a ydych yn gymwys i fod yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ai peidio.

Byddwn yn cysylltu â’r canolwyr a nodoch yn eich ffurflen gais i wirio bod yr wybodaeth a roddwyd yn gywir.  Os yw eich geirdaon yn dderbyniol, bydd eich cais yn symud ymlaen i gliriad diogelwch.

Nod y gwiriad diogelwch yw gwirio eich hunaniaeth a’ch cefndir.  Mae’n hynod bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a roddwyd yn eich ffurflen gais er mwyn hwyluso’r broses hon.
 

Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice