Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu : Hyfforddiant Ffurfiol
Os cewch eich recriwtio, bydd angen i chi gyflawni hyfforddiant ffurfiol.
Bydd yr hyfforddiant yn defnyddio cymysgedd o ddulliau, megis arddangosiadau ymarferol, efelychiadau cyfrifiadurol a chyflwyniadau.
Maent wedi’u cynllunio i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth drylwyr o rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu a’r hyn sy’n ofynnol ohoni.