South Wales Police

Y Ganolfan Asesu

Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu : Y Ganolfan Asesu

Os byddwch yn pasio cam cais cychwynnol y broses recriwtio, cewch wahoddiad i gymryd rhan yng ngham dau: y Ganolfan Asesu.

Yn ystod yr asesiad byddwch yn cyflawni cyfweliad, prawf rhifiadol a phrawf ymresymu rhesymegol.


Y Cyfweliad

Bydd y cyfweliad yn para 30 munud.  Gofynnir pedwar cwestiwn i chi wedi’u seilio ar sut rydych wedi delio â sefyllfaoedd penodol yn y gorffennol, a rhaid i chi ateb pob un o fewn cyfnod o bum munud wedi’i amseru.

Bydd y cyfwelydd yn monitro’r amseru, a bydd yn eich stopio os byddwch yn cymryd mwy na phum munud.

Bydd y cwestiynau yn ymwneud â’r cymwyseddau allweddol sy’n angenrheidiol i fod yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu llwyddiannus e.e. sgiliau cyfathrebu da.


Y Profion Rhifiadol a Rhesymegol

Gofynnir 25 cwestiwn amlddewis i chi yn y prawf ymresymu rhifiadol a fydd yn mesur eich gallu i ddatrys problemau rhifiadol yn gywir.  Cewch 12 munud i gwblhau’r prawf.


Rhaid i chi ateb 31 cwestiwn amlddewis mewn 25 munud yn y prawf ymresymu rhesymegol llafar, a fydd yn mesur eich gallu i ymresymu yn rhesymegol pan roir ffeithiau i chi am ddigwyddiadau.

 

Share
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice